Mae Jess Fishlock wedi ennill prif wobr bêl-droed merched yn yr Unol Daleithiau.

Yn dilyn ei pherfformiadau gyda thîm OL Reign yn nhalaith Washington, mae hi’n ennill gwobr Chwaraewraig Mwyaf Gwerthfawr, neu’r ‘MVP’, yn y National Women’s Soccer League (NWSL).

Mae’r NWSL yn un o gynghreiriau mwyaf llewyrchus yn y byd o ran safon ac arian.

Fe orffennodd ei thîm yn ail yn nhabl y gynghrair eleni, gan gyrraedd y gemau ail gyfle i ennill y gwpan, ond maen nhw newydd gael eu curo yn y gystadleuaeth honno ddydd Sul (14 Tachwedd).

Sgoriodd hi bump gôl a chynorthwyo pedwar yn ystod y tymor arferol.

Jess Fishlock

Fe ymunodd Fishlock â’r tîm yn America yn ôl yn 2013, ar ôl cyfnod yn chwarae yn Awstralia.

Mae hi wedi treulio ychydig o gyfnodau allan ar fenthyg, gan ennill Cynghrair Pencampwyr y Merched yn 2015 a 2019 wrth chwarae yn Frankfurt ac Olympique Lyonnais.

Mae hi hefyd wedi ennill gwobr pêl-droedwraig gorau Cymru bedair gwaith, ac ymddangos 119 o weithiau dros ei gwlad – record y tîm rhyngwladol.