Mae Middlesbrough ar fin arwyddo amddiffynnwr Cymru, Neil Taylor, ar gytundeb tymor byr.

Roedd y chwaraewr 32 oed wedi bod ar dreial gyda’r clwb yng ngogledd Lloegr, gan chwarae i’w tîm dan-23, ac mae disgwyl i’r cytundeb barhau tan fis Ionawr.

Mae Boro yn ddegfed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, a newydd benodi Chris Wilder yn rheolwr, ar ôl diswyddo Neil Warnock.

Dydy Taylor heb chwarae ers iddo gael ei ryddhau gan Aston Villa ym mis Mai eleni, ar ôl chwarae dim ond 15 gêm iddyn nhw ers i’r clwb ddychwelyd i’r Uwchgynghrair yn 2019.

Mae gan y cefnwr chwith 43 cap i Gymru, ond dydy o heb chwarae dros ei wlad ers dwy flynedd oherwydd anafiadau a diffyg ymddangosiadau i’w glwb.

Llygad ar hyfforddi

Yn ddiweddar, fe wnaeth lwyddo i gael trwydded hyfforddi UEFA ar ôl pasio cwrs a oedd yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae’n anelu at gael trwydded ‘Pro’ UEFA maes o law.

Roedd nifer o garfan Euro 2016 Cymru wedi cymryd rhan yn y cwrs, gan gynnwys Ashley Williams, Chris Gunter, a Joe Allen.

Fe gafodd brofiad yn hyfforddi tîm dan 16 Aston Villa yn rhan o’r cwrs hefyd.

“Roeddwn i wrth fy modd, ac eisiau cyrraedd y nod o’r dechrau un,” meddai Neil Taylor.

“Roedd bod yno efo pobol fel Ashley Williams a Joe Allen yn wych.

“Rydyn ni wedi bod efo’n gilydd ers amser hir, ers ein dyddiau cynnar yn Abertawe ac efo Chymru, ac rydyn ni gyd yn deall pêl-droed.

“Ond, pan ddaethon ni gyd at ein gilydd a’n gorfod trefnu sesiwn, roedden ni’n edrych ar ein gilydd yn syn, er ein bod ni wedi gwneud tua 20,000 o sesiynau ymarfer rhyngon ni!”