Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, wedi cadarnhau y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn cynnal y gêm ail-gyfle gynderfynol ym mis Mawrth.

Yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg nos Fawrth (16 Tachwedd), mae Cymru wedi sicrhau byddan nhw’n chwarae o leiaf un gêm gartref, gan eu bod nhw ymhlith y detholion.

Er mwyn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, bydd rhaid iddyn nhw ennill dwy gêm, gyda lleoliad yr ail gêm i’w bennu yn hwyrach ymlaen.

Dywedodd Noel Mooney nad oedd “unrhyw awydd o gwbl” i chwarae yn Stadiwm Principality ar gyfer y gemau hynny, a bod y cefnogwyr yn “hapus iawn” yn y stadiwm sy’n llai o faint.

Mae’r prif weithredwr, a ymunodd â’r Gymdeithas ym mis Gorffennaf eleni, wedi awgrymu o’r blaen eu bod nhw’n archwilio’r posibilrwydd o chwarae yng nghartref rygbi Cymru yn achlysurol, yn enwedig ar gyfer gemau oedd yn debygol o ddenu torfeydd mwy.

Dydy Cymru ond wedi chwarae yn Stadiwm Principality unwaith ers 2011, mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yn 2018, a prin iawn maen nhw’n chwarae yn Abertawe a Wrecsam erbyn hyn.

Y stadiwm o'r tu allan, ochr Stryd Westgate
Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd

Symud?

Roedd cefnogwyr wedi llenwi Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg, gyda’r galw’n uchel ar gyfer yr ornest lled-dyngedfennol.

Mae Stadiwm Principality yn dal dros ddwbl nifer y bobol, ac wedi cael ei defnyddio ar gyfer gemau poblogaidd yn y gorffennol, yn enwedig yn erbyn Lloegr yn 2011.

Rhwng 2000 a 2009, dyma oedd cartref pêl-droed Cymru, gyda thorfeydd yn codi uwchben 60,000 yn gyson.

Dywedodd Noel Mooney, sy’n wreiddiol o Iwerddon, yn ôl ym mis Medi bod y Gymdeithas wedi trafod cynnal gemau yn y stadiwm yn y dyfodol.

“Mae gennym gytundeb gyda Stadiwm Dinas Caerdydd ac mae pawb yn hoff iawn o fynd yno,” meddai prif weithredwr newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth asiantaeth newyddion PA bryd hynny.

“Ond fe fyddwn ni’n siarad ag Undeb Rygbi Cymru ddiwedd yr wythnos nesaf. Yn sicr, rydym mewn trafodaethau gyda nhw…

“Er mwyn sicrhau, os daw gêm nad yw Stadiwm Dinas Caerdydd ar gael ar ei chyfer am ba reswm bynnag… neu os oes yna deimlad mawr iawn bod pobl eisiau mynd i Stadiwm Principality.”

Cefnogwyr yn hapus lle maen nhw

Noel Mooney, Prif Weithredwr newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Ond wrth drafod gyda rhaglen Politics Wales ar BBC One yr wythnos hon, ymddengys bod Mooney wedi newid ei dôn, gan sicrhau y bydd Cymru’n chwarae’r gêm ail-gyfle gyntaf yn stadiwm clwb pêl-droed Caerdydd.

“Rydyn ni’n hapus iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae ein cefnogwyr yn hapus iawn yno,” meddai.

“Byddai unrhyw un oedd yn y gêm yn erbyn Gwlad Belg i weld y ‘Wal Goch’ [yn dweud hynny].

“Roedd yr anthem i fi yn drawiadol iawn, a’r awyrgylch drwy gydol y gêm.

“Rydw i’n sicr mai’r cefnogwyr gafodd ni drwyddo yn y diwedd, yn ogystal ag ymdrechion glew ein chwaraewyr, achos roedd yr egni yn anhygoel.”

Cynghrair y Cenhedloedd

Er y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn cynnal y gêm ail-gyfle, does dim sôn eto lle fydd Cymru’n chwarae eu gemau Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Mehefin a Medi 2022.

Ar gyfer y gystadleuaeth honno, bydd Cymru’n cael ei dyrchafu i’r haen uchaf – sy’n cynnwys gwledydd fel Lloegr, Ffrainc a’r Eidal – a bydd y grwpiau hynny’n cael eu pennu fis Rhagfyr eleni.

Bydd Cymru’n herio un ai Awstria, Gogledd Macedonia, Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, Twrci, neu’r Wcráin, yn eu gêm ail-gyfle gartref ddydd Iau, 24 Mawrth.

Bydd yr enwau’n cael eu tynnu allan o’r het ymhen naw diwrnod ar ddydd Gwener, 26 Tachwedd.