Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan Cymru i herio Groeg ym Mharc y Scarlets nos Wener nesaf (Tachwedd 26), gyda’r gic gyntaf am 7:15 o’r gloch.

Bydd y garfan yn teithio i Guingamp yn Llydaw wedyn i wynebu Ffrainc y nos Fawrth ganlynol (Tachwedd 30).

Bydd y tîm yn ceisio adeiladu ar yr ymgyrch hyd yn hyn i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA Merched 2023.

Mae carfan Gemma Grainger yn mynd i mewn i’r gemau yn ail yn y grŵp ar ôl tair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal.

Fydd Rachel Rowe ddim ar gael oherwydd anaf, ac mae Hannah Cain allan am gyfnod hir ar ôl dioddef o anaf gewyn croesgad blaen (anterior cruciate ligament) wythnos ar ôl iddi hi ennill ei chap cyntaf dros Gymru fis diwethaf.

Mae Maria Francis Jones yn ôl yn y garfan ar ôl bod yn gapten ar y tîm dan 19 fis diwethaf, wrth iddyn nhw gyrraedd Cynghrair A yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth UEFA EURO dan 19 y Merched 2022.

Carfan Cymru: Laura O’Sullivan, Olivia Clark, Poppy Soper, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rhiannon Roberts, Esther Morgan, Maria Francis-Jones, Lily Woodham, Morgan Rogers, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Josie Green, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Chloe Williams, Ffion Morgan, Megan Wynne, Natasha Harding, Ceri Holland, Kayleigh Green, Helen Ward, Elise Hughes, Georgia Walters.