Mae Azeem Rafiq, cyn-gricedwr Clwb Criced Swydd Efrog, yn gobeithio y bydd rhannu ei brofiadau o hiliaeth yn y gêm yn agor y llifddorau fel bod mwy o chwaraewyr yn codi’u lleisiau.

Daw hyn wrth iddo fynd gerbron pwyllgor seneddol yn San Steffan i drafod ei bryderon.

Ddydd Mawrth (Tachwedd 16), cyflwynodd Rafiq dystiolaeth ddamniol am broblem hiliaeth yn y byd criced i’r Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ac mae datganiad arall ganddo hefyd wedi datgelu honiadau ynghylch nifer o chwaraewyr, gan gynnwys Michael Vaughan, Gary Ballance, Tim Bresnan, Matthew Hoggard ac Alex Hales.

Mae’n disgwyl i ragor o chwaraewyr godi eu lleisiau yn sgil ei brofiadau ei hun.

Ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 17), cadarnhaodd comisiwn annibynnol fod mwy na 1,000 o bobol wedi ymateb i’w cais am wybodaeth a thystiolaeth.

‘Cannoedd ar filoedd’

Yn ôl Azeem Rafiq, sydd wedi bod yn siarad â Sky Sports News, gallai’r comisiwn dderbyn cannoedd ar filoedd o ddarnau o dystiolaeth.

“Dw i yn teimlo bod y llifddorau am gael eu hagor, ac y bydd llawer o ddioddefwyr sydd wedi cael eu camdrin yn dod ymlaen,” meddai.

Ymhlith y cyn-chwaraewyr eraill sydd eisoes wedi rhannu eu profiadau mae Zoheb Sharif a Maurice Chambers (Essex).

Mae Clwb Criced Swydd Efrog wedi sefydlu llinell gymorth i bobol gael ‘chwythu’r chwiban’, tra bod Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) a Chymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) wedi sefydlu gwasanaeth i bobol gael adrodd am eu cwynion.

Tystiolaeth Azeem Rafiq

Dywedodd Azeem Rafiq, y cyn-droellwr, wrth aelodau iddo ddioddef iselder a’i fod e wedi ystyried lladd ei hun.

Dywedodd iddo gael boddhad o gael rhannu ei brofiadau, ond nad oes modd dweud yr un fath am y rhai y mae wedi gwneud honiadau amdanyn nhw.

Mae Tim Bresnan, cyn-chwaraewr Swydd Efrog, wedi ymddiheuro ar Twitter, ond mae’n mynnu nad yw’r cyhuddiad iddo wneud sylwadau hiliol yn gyson “yn wir o gwbl”, ac mae ei dîm presennol, Swydd Warwick, yn dweud y byddan nhw’n ceisio eglurhad ganddo fe ac y byddan nhw’n siarad ag Azeem Rafiq hefyd.

Mae Azeem Rafiq wedi cyhuddo Alex Hales o roi’r enw ‘Kevin’ ar ei gi – roedd Gary Ballance yn defnyddio’r enw ‘Kevin’ wrth gyfeirio at unrhyw chwaraewr o liw.

Ond mae Hales yn “gwadu’n llwyr” yr honiad ei fod e wedi rhoi’r enw hwnnw ar ei gi am resymau hiliol.

Mae Gwlad yr Haf hefyd yn cynnal ymchwiliad i honiadau Rafiq yn erbyn Jack Brooks, un arall o gyn-chwaraewyr Swydd Efrog, ar ôl i Rafiq ei gyhuddo o ddechrau’r arfer o alw Cheteshwar Pujara, batiwr o India, yn “Steve”, ac mae ambell neges hiliol gan Brooks ar Twitter yn 2012 hefyd wedi dod i’r amlwg.

Mae Brooks yn cyfaddef iddo ddefnyddio’r enw ‘Steve’ wrth siarad am Pujara, ac mae e wedi ymddiheuro am fod yn “amharchus” gan ddweud ei fod e bellach yn sylweddoli “nad oedd yn dderbyniol”.

Mae e hefyd yn derbyn bod y negeseuon Twitter “rhwng ffrindiau” yn amhriodol.

Mae David Byas, cyn-gapten Swydd Efrog, hefyd wedi’i gyhuddo gan Rafiq o ymddygiad hiliol er ei fod e wedi gadael y sir erbyn i Rafiq ddechrau chwarae iddyn nhw yn 2008, ond mae Byas hefyd yn gwadu’r honiadau.

Galw am ymadawiadau

Dydy Swydd Efrog ddim wedi ymateb hyd yn hyn, ond mae Azeem Rafiq yn galw ar Andrew Gale, y prif hyfforddwr sydd wedi’i ddiarddel ynghylch neges ar Twitter yn y gorffennol, a’r Cyfarwyddwr Criced Martyn Moxon, sydd ar absenoldeb salwch oherwydd straen, i gamu o’r neilltu.

“Dw i ddim yn credu ei bod hi’n bosib i Swydd Efrog barhau gyda nhw yno, gyda nhw’n gwybod yn iawn y rhan y gwnaethon nhw ei chwarae yn y sefydliad hwnnw,” meddai Rafiq.

Wnaeth Gale na Moxon ddim cynnig tystiolaeth i’r pwyllgor seneddol.

Azeem Rafiq

Azeem Rafiq yn datgelu ei brofiadau o hiliaeth wrth bwyllgor seneddol

Mae cyn-gricedwr Swydd Efrog wedi bod yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor seneddol sy’n cynnal ymchwiliad i’r honiadau
Clwb Criced Essex

Rhagor o honiadau o hiliaeth yng Nghlwb Criced Essex

Daw honiadau Maurice Chambers ddyddiau’n unig ar ôl i Zoheb Sharif godi’i lais
Azeem Rafiq

Chwaraewr Asiaidd yn ategu sylwadau Azeem Rafiq am gyn-gapten Lloegr

Adil Rashid yn dweud ei fod yntau hefyd yn cofio sylwadau gan Michael Vaughan, cyn-gapten Lloegr, am griw o chwaraewyr o dras Asiaidd
Clwb Criced Essex

Clwb Criced Essex yn ymateb i honiadau o hiliaeth

Daw sylwadau’r prif weithredwr John Stephenson yn dilyn ymddiswyddiad y cadeirydd John Faragher a honiadau gan gyn-chwaraewr

Morgannwg yn ategu eu hymrwymiad i ddileu hiliaeth

Yn dilyn sgandal Swydd Efrog, mae’r sir griced Gymreig yn dweud nad ydyn nhw’n goddef hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath arall
Azeem Rafiq

Azeem Rafiq a hiliaeth Swydd Efrog: Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i weithredu

Chris Philp, un o weinidogion y Llywodraeth, yn galw am ymchwiliad “trylwyr a thryloyw”
Azeem Rafiq

Cadeirydd newydd Clwb Criced Swydd Efrog yn ymddiheuro wrth Azeem Rafiq

Mae’r Arglwydd Patel yn olynu Roger Hutton, oedd wedi camu o’r neilltu yn sgil ffrae hiliaeth o fewn y clwb