Bydd Gerwyn Price a Jonny Clayton yn cwrdd yn rownd wyth olaf Camp Lawn y byd dartiau fory (dydd Gwener, Tachwedd 19).

Curodd Price Bradley Brooks o 10-8 yn yr ail rownd, tra bod Clayton wedi curo Nathan Rafferty o 10-2.

Mae Clayton wedi trechu ei gyd-Gymro ddwywaith yn y mis diwethaf.

Enillodd e o 5-1 yn rownd derfynol Grand Prix y Byd ac o 10-9 yn y rownd derfynol yng Nghyfres Dartiau’r Byd.

“Mae Gerwyn yn mynd i fod yn awyddus i ddial arna i ond rwy’n mynd i chwarae fy ngêm a gobeithio cael y fuddugoliaeth,” meddai Jonny Clayton.

“Dylwn fod wedi ei guro y tro diwethaf, meddai Gerwyn Price.

“Rhoddais i’r gêm iddo ar blât ac fe wnes i fethu cyfleoedd, ond rwy’n gwybod os gwna’ i chwarae fy ngêm a chymryd fy nghyfleoedd yn ei erbyn, byddaf yn dod drwy’r gêm.”