Mae Ellis Jenkins wedi cael ei enwi’n gapten ar dîm rygbi Cymru eto ar gyfer eu gêm olaf yng Ngemau’r Hydref yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn (Tachwedd 20).

Bydd Josh Adams yn dychwelyd ar ôl cael anaf i’w goes ychydig funudau cyn y gêm yn erbyn Ffiji yr wythnos ddiwethaf.

Mae Tomas Francis ac Aaron Wainwright yn well wedi anafiadau, ac wedi cael eu henwi gan y prif hyfforddwr Wayne Pivac fel rhan o’r tîm fydd yn chwarae ddydd Sadwrn.

Bydd Seb Davies yn dechrau yn yr ail reng yn lle Will Rowlands, ac Uilisi Halaholo yn dechrau yn y canol gyda Nick Tompkins, wedi i’r ddau ddod oddi ar y fainc yr wythnos ddiwethaf.

Does dim lle i Jonathan Davies yn y tîm.

Bydd Wyn Jones yn dychwelyd hefyd, gan ymuno â Tomas Francis a Ryan Elias yn y rheng flaen.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru groesawu Awstralia i Gaerdydd ers eu buddugoliaeth gartref dair blynedd yn ôl.

‘Gêm afaelgar’

“Mae hi wedi bod yn ymgyrch anodd ond yn un lle’r ydyn ni wedi cyflwyno mwy o chwaraewyr i’r lefel hon o rygbi, sy’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol,” meddai Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, wrth siarad am ymgyrch yr hydref hyd yn hyn.

“Gyda’r anafiadau rydyn ni wedi’u hwynebu, rydyn ni wedi gorfod addasu ac mae’r rhain yn gyfleoedd y mae rhai chwaraewyr wedi’u cymryd yn dda iawn.

“Mae Awstralia wedi bod ar eu ffordd ers tro nawr, y gyfres gawson nhw lawr yn y De a cholli ambell dro yn eu hychydig gemau diwethaf.

“Byddan nhw’n brifo ar ôl hynny, a byddan nhw eisiau gorffen eu taith ar nodyn uchel, fel y bydden ninnau’n hoffi gorffen ein hymgyrch ar nodyn uchel. Mae hi’n argoeli’n dda ar gyfer gêm reit ddiddorol.

“Mae Dave Rennie yn dod ag agwedd gorfforol i’r gêm ac rydyn ni’n sicr yn disgwyl hynny gan yr Awstraliaid, ond rydyn ni’n mynd i orfod ymateb i hynny a sefydlu’n hunain yn y gêm.

“Mae hi am fod yn gêm afaelgar, dw i’n meddwl, ac yn ffordd wych o orffen y gyfres. Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at ddydd Sadwrn.

“Yr wythnos hon, hoffwn annog [y dorf] i fod yn fwy swnllyd, a chefnogi’r hogiau.

“Maen nhw wedi gweithio’n galed iawn felly mae cael unfed dyn ar bymtheg, fel chi, yn gwthio a gyrru’r tîm yn eu blaenau, byddem ni wir yn gwerthfawrogi hynny.”

Y tîm:

15 Liam Williams (Scarlets), 14 Louis Rees-Zammit (Caerloyw), 13 Nick Tompkins (Saracens), 12 Uilisi Halaholo (Rygbi Caerdydd), 11 Josh Adams (Rygbi Caerdydd), 10 Dan Biggar (Northampton), 9 Tomos Williams (Rygbi Caerdydd); 1 Wyn Jones (Scarlets), 2 Ryan Elias (Scarlets), 3 Tomas Francis (Y Gweilch), 4 Adam Beard (Y Gweilch), 5 Seb Davies (Rygbi Caerdydd), 6 Ellis Jenkins (Rygbi Caerdydd – capten), 7 Taine Basham (Y Dreigiau), 8 Aaron Wainwright (Y Dreigiau)

Eilyddion:

16 Elliot Dee (Y Dreigiau), 17 Gareth Thomas (Y Gweilch), 18 Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd), 19 Ben Carter (Y Dreigiau), 20 Christ Tshiunza (Caerwysg), 21 Gareth Davies (Scarlets), 22 Rhys Priestland (Rygbi Caerdydd), 23 Johnny McNicholl (Scarlets)