Mae Wayne Pivac yn credu y byddai buddugoliaeth yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn (20 Tachwedd) yn golygu bod Cyfres yr Hydref wedi bod yn un “llwyddiannus” i Gymru.

Mae dros 15 o chwaraewyr Cymru allan o’r gêm yn erbyn y Wallabies yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

A hyd yn oed ar ôl enwi ei dîm i wynebu Awstralia, mae prif hyfforddwr Cymru, Pivac, yn dal i fod angen cadarnhad terfynol ar argaeledd dau chwaraewr – yr asgellwr Josh Adams a’r prop Tomas Francis.

Fe fethodd Adams y fuddugoliaeth dros Fiji y penwythnos diwethaf gydag anaf tra bod Francis wedi dioddef anaf i’w ben yn ystod hyfforddiant yr wythnos diwethaf.

“Rydym wedi ei enwi (Adams) ar y sail y bydd yn dod drwy hyfforddiant (ddydd Iau, 18 Tachwedd),” meddai Pivac.

“Rydyn ni wedi cael gwybod y dylai fod yn iawn.

“Rwy’n gobeithio fel pawb arall ei fod yn dod drwyddo oherwydd ei fod yn rhan bwysig o’n tîm ni.”

Ac ar Francis, ychwanegodd Pivac: “Mae’n gweld ymgynghorydd annibynnol heno (dydd Iau, 18 Tachwedd), felly mae wedi cael ei enwi ar yr amod ei fod yn dod drwy’r broses honno.

“Gan fethu hynny, rydym yn amlwg wedi bod yn hyfforddi gyda Chynllun B drwy’r wythnos.”

“Llwyddiannus”

Wrth asesu ymgyrch yr hydref –  lle cafodd Cymru grasfa gan Seland Newydd (54-16) a’u trechu gan Dde Affrica (23-18) cyn curo Fiji – dywedodd Pivac: “Rydym wedi colli chwaraewyr blaenllaw a fyddai’n brifo unrhyw dîm.

“Ond mae wedi rhoi cyfleoedd gwych i chwaraewyr eraill, ac mae rhai wedi dod i mewn a gwneud yn dda iawn, iawn.

“Mae hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“I herio pencampwyr y byd (De Affrica) mewn amodau oedd yn addas iddyn nhw, roedd hynny’n ymdrech enfawr gan ein chwaraewyr, yn enwedig y blaenwyr.

“Ac yna i droi o gwmpas a chwarae’r gêm honno yn erbyn Fiji, oedd wastad yn wrthwynebydd anodd a chorfforol iawn.

“Buddugoliaeth yw’r hyn yr ydym ar ei ôl, ac rwy’n credu y byddai buddugoliaeth yn ei gwneud yn gyfres lwyddiannus.”

Dim Jonathan Davies

Ar hyn o bryd mae Jonathan Davies ar 99 cap i Gymru a’r Llewod, er y bydd yn gorfod aros tan o leiaf y Chwe Gwlad i gyrraedd 100.

“Mae e wir eisiau chwarae dros ei wlad. Mae’n gwybod bod ganddo fwy i’w roi,” meddai Pivac.

“Bydd yn mynd yn ôl at ei glwb ac yn ceisio gorfodi ei ffordd yn ôl i’r tîm.

“Cefais sgwrs dda gyda Jonathan. Yn amlwg, byddai wrth ei fodd yn bod allan yno’n chwarae.

“Roedden ni eisiau cael golwg ar Willis (Uilisi Halaholo) yn gynharach yn yr hydref ond doedden ni ddim yn gallu oherwydd sefyllfa Covid.

“Fe ddaeth oddi ar y fainc yr wythnos ddiwethaf a gwneud lot. Rydym am ei weld yn dechrau am y tro cyntaf i weld sut mae’n mynd.

“Rydym yn credu bod Willis wedi ennill yr hawl i ddechrau, a chwaraeodd Nick (Tomkins) yn dda’r wythnos diwethaf, felly byddwn yn mynd gyda’r cyfuniad hwnnw.”

Y tîm:

15 Liam Williams (Scarlets), 14 Louis Rees-Zammit (Caerloyw), 13 Nick Tompkins (Saracens), 12 Uilisi Halaholo (Rygbi Caerdydd), 11 Josh Adams (Rygbi Caerdydd), 10 Dan Biggar (Northampton), 9 Tomos Williams (Rygbi Caerdydd); 1 Wyn Jones (Scarlets), 2 Ryan Elias (Scarlets), 3 Tomas Francis (Y Gweilch), 4 Adam Beard (Y Gweilch), 5 Seb Davies (Rygbi Caerdydd), 6 Ellis Jenkins (Rygbi Caerdydd – capten), 7 Taine Basham (Y Dreigiau), 8 Aaron Wainwright (Y Dreigiau)

Eilyddion:

16 Elliot Dee (Y Dreigiau), 17 Gareth Thomas (Y Gweilch), 18 Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd), 19 Ben Carter (Y Dreigiau), 20 Christ Tshiunza (Caerwysg), 21 Gareth Davies (Scarlets), 22 Rhys Priestland (Rygbi Caerdydd), 23 Johnny McNicholl (Scarlets)

Enwi Ellis Jenkins yn gapten eto ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Awstralia

Bydd Josh Adams, Tomas Francis ac Aaron Wainwright yn dychwelyd i’r tîm ar ôl anafiadau ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn (Tachwedd 20)