Mae Ysgrifennydd Chwaraeon Prydain, Nigel Huddleston, yn honni nad yw ymddygiad cefnogwyr Lloegr yn Euro 2020 wedi amharu ar y cynnig i gynnal Cwpan y Byd FIFA yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon yn 2030.

Roedd cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, a Gogledd Iwerddon wedi ymrwymo i wneud cais ar gyfer cynnal y gystadleuaeth, a fydd yn dathlu ei chanmlwyddiant, ac wedi derbyn cefnogaeth Llywodraethau Prydain ac Iwerddon.

Ond ers hynny gwelwyd golygfeydd sur o gefnogwyr Lloegr yn achosi anrhefn y tu allan ac y tu fewn i Wembley yn ystod rownd derfynol Euro 2020, ac mae Lloegr wedi cael gorchymyn i chwarae eu gêm gystadleuol UEFA nesaf y tu ôl i ddrysau caeedig – gydag un gêm arall wedi’i hatal.

Bydd FIFA yn agor y drws ar gyfer ceisiadau yn 2022, ac mae asesiad dichonoldeb yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Disgwylir penderfyniad terfynol ar bwy gaiff gynnal rowndiau terfynol 2030 yng Nghyngres FIFA 2024.

‘Dim difrod i’r cais’

Mae Nigel Huddleston wedi beio unigolion “afreolus a dirmygus” am “danseilio” ymdrechion i ddod â chystadlaethau pêl-droed y dyfodol i Brydain.

Ond fe honnodd nad yw hynny wedi effeithio ar unrhyw gais arfaethedig i gynnal Cwpan y Byd 2030.

“Yn y sgyrsiau rydyn ni wedi’u cael hyd yma, mae’n cael ei gydnabod bod y [digwyddiadau o anrhefn] yn eithriadol,” meddai Huddleston.

“Rydyn ni’n gallu cynnal digwyddiadau yn dda iawn mewn gwirionedd.

“Dydw i ddim yn credu, a dydyn ni ddim wedi cael unrhyw awgrym, fod y digwyddiadau yn Wembley wedi difrodi ein cais o gwbl.”

Roedd Nigel Huddleston yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ynglyn â gwerth cynnal cystadlaethau diwylliannol a chwaraeon byd-eang.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Julian Knight, y byddai ymgeisio am Gwpan y Byd 2030 yn “nonsens llwyr” ar ôl i ymgyrchoedd Lloegr i gynnal y gystadleuaeth yn 2006 a 2018 foddi wrth y lan.

Ond roedd Huddleston yn honni bod y broses wedi “newid yn sylfaenol” ar ôl cwymp Sepp Blatter fel arlywydd FIFA.

Proses ymgeisio

Mae gwledydd eraill fel Moroco wedi datgan diddordeb mewn gwneud cynnig swyddogol – yn ogystal â sawl cynnig ar y cyd gan sawl gwlad.

Mae Llywydd FIFA, Gianni Infantino, eisoes wedi awgrymu y gall cynigion ar y cyd gan sawl gwlad fod y “model i ddilyn” o ran cynaladwyedd, a fyddai’n helpu cais gan wledydd Prydain ac Iwerddon.

Hefyd, mae’r ffaith bod Cwpan y Byd 2022 a 2026 yn Asia a Gogledd America yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd twrnament 2030 yn Ewrop.