Mae disgwyl i Gaerdydd gadw Steve Morison yn rheolwr dros dro tan ddiwedd y tymor.

Cafodd cyn-ymosodwr Cymru ei benodi yn rheolwr dros dro ar ôl i Mick McCarthy adael y clwb mis diwethaf.

Ers hynny mae’r Adar Gleision wedi ennill pedwar pwynt mewn tair gêm.

Daeth y fuddugoliaeth yn erbyn Huddersfield ddydd Sadwrn (6 Tachwedd) a rhediad o 10 gêm heb ennill yn y Bencampwriaeth i ben.

Nawr mae disgwyl iddo aros ymlaen yn y swydd gyda’i is-hyfforddwr Tom Ramasut.

Mae disgwyl cyhoeddiad heddiw (dydd Gwener, 12 Tachwedd) neu ddydd Sadwrn (13 Tachwedd) i gadarnhau’r sefyllfa.

Y gred yw bod Morison wedi creu argraff ar berchennog y clwb, Vincent Tan.

Roedd Caerdydd hefyd wedi ystyried penodi cyn-is-hyfforddwyr Chelsea, Eddie Newton a Jody Morris, yn ogystal â chyn-hyfforddwr Rangers, Michael Beale.