Bydd y gyfraith ynghylch defnyddio ffôn symudol mewn cerbyd yn cael ei chryfhau, gyda chosbi llymach o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Yn ôl y rheolau newydd, bydd gyrwyr yn cael eu gwahardd rhag sgrolio drwy restrau chwarae cerddoriaeth, tynnu lluniau neu fideo, a chwarae gemau ar eu ffonau wrth yrru.
Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn gwneud hynny yn cael dirwy o £200 ac yn derbyn chwe phwynt ar eu trwydded.
Mae’r Adran Drafnidiaeth yn dweud eu bod nhw am sicrhau bod y gyfraith yn gyfoes, gan ei gwneud hi’n haws cosbi unrhyw yrrwr sy’n defnyddio neu ddal eu ffonau wrth y llyw.
Ar hyn o bryd, mae’n anghyfreithlon i decstio neu ffonio gyda dyfais yn y llaw, oni bai am achos o argyfwng, ac mae gan yr heddlu hawl i gosbi gyrrwr os ydyn nhw’n teimlo bod ganddyn nhw ddim rheolaeth lawn o’u cerbyd.
Bydd gyrwyr yn parhau i gael defnyddio eu ffôn neu sat-nav ar gyfer canfod cyfeiriadau, ond bydd rhaid i’r ddyfais fod yn sownd i’r car, hynny yw – ddim yn llaw y gyrrwr.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain, Grant Shapps:
“Gan ei gwneud hi’n haws erlyn pobol sy’n defnyddio eu ffôn yn anghyfreithlon wrth y llyw, rydyn ni’n sicrhau bod y gyfraith yn cael ei dwyn i mewn i’r 21ain ganrif ac yn amddiffyn defnyddwyr ffyrdd ymhellach.
“Er bod ein ffyrdd yn parhau i fod ymysg y mwyaf diogel yn y byd, rydyn ni’n parhau i weithio’n ddiflino i’w gwneud nhw’n saffach, yn enwedig drwy ein hymgyrch arobryn THINK!, sy’n herio arferion gwael ymysg gyrwyr peryglus.”
Yy ystadegau – 17 wedi marw’r llynedd
Y llyneddbu farw 17 o bobol mewn gwrthdrawiadau a oedd wedi eu hachosi gan yrwyr yn defnyddio ffôn symudol.
Ar ben hynny, roedd 114 o bobol wedi eu hanafu yn ddifrifol, ac roedd 385 wedi cael anafiadau bychain yn dilyn y math yma o wrthdrawiadau, yn ôl ffigyrau gan yr Adran Drafnidiaeth.
Roedd mwy nag un o bob chwech o’r rhai a fu farw yn gerddwyr neu’n seiclwyr.
Yn sgil y sefyllfa broblemus hon, fe wnaeth 81% o ymatebwyr mewn ymgynghoriad cyhoeddus gefnogi’r cynlluniau i gryfhau’r gyfraith.
Bydd Cod y Briffordd yn cael ei ddiwygio er mwyn pwysleisio bod defnyddio ffôn wrth y llyw tra’n llonydd mewn traffig hefyd yn anghyfreithlon.
“Angen mwy o heddlu ar y ffyrdd i helpu i ddal a dychryn gyrwyr”
Dywedodd llywydd yr AA, Edmund King:
“Gan wneud defnydd o ffonau symudol yr un mor gymdeithasol annerbyniol ag yfed a gyrru, rydyn ni’n cymryd camau mawr i wneud ein ffyrdd yn saffach.
“Am flynyddoedd, mae’r AA wedi ymgyrchu’n gryf i helpu i addysgu gyrwyr am y peryglon o ddefnyddio ffonau symudol.
“I helpu i sicrhau bod gyrwyr yn deall y neges, rydyn ni hefyd angen mwy o heddlu ar y ffyrdd i helpu i ddal a dychryn gyrwyr sy’n cael eu temtio i wneud hynny.”
Dywedodd llefarydd ar ddiogelwch ffyrdd yr RAC, Simon Williams:
“Wrth i’n ffonau fynd yn fwyfwy soffistigedig, dydy’r gyfraith heb ddal i fyny efo hynny, sydd wedi caniatáu i rai gyrwyr fanteisio ar fwlch er mwyn osgoi’r ddirwy uchaf posib.
“Er bod y cyhoeddiad heddiw yn amlwg yn newyddion da, mae’n holl bwysig bod y gyfraith newydd yn cael ei orfodi’n iawn.
“Fel arall, mae yna risg na fydd yn arwain at y newid mewn ymddygiad fyddai’n gwneud ein ffyrdd ni’n fwy diogel.”