Mae ymgyrch lachar ar droed i geisio lleihau faint o faw cŵn sy’n cael ei adael ar ôl ledled Cymru.

Yn rhan o’r ymgyrch ‘Cadwch Gymru’n Daclus’, mae darluniau o olion pawennau pinc wedi eu gosod ar finiau a llwybrau ar draws y wlad er mwyn ysgogi perchnogion cŵn i gadw cymunedau’n daclus, drwy glirio baw ar eu holau.

Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei chynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a chynghorau sir i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Yn ôl rheolwr Polisi ac Ymchwil yr ymgyrch, mae’n debyg fod un ymhob deg o berchnogion cŵn yn peidio â glanhau baw eu hanifail anwes.

Er nad yw hynny’n swnio’n uchel, mae 30% o boblogaeth Cymru yn berchen ar gi, yn ôl ffigyrau o 2016, felly byddai’r ffigwr yn golygu bod tua 100,000 o bobol yn peidio â glanhau baw.

Mae baw ci yn beryglus iawn i iechyd pobl ac anifeiliaid eraill, ac yn gallu achosi asthma, dallineb a ffitiau.

#BagiwchBiniwch

Un o’r ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch yw Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl.

Maen nhw wedi chwistrellu olion pawennau pinc llachar a’r slogan #BagiwchBiniwch yn y dref.

“Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau cymryd rhan yn yr ymgyrch gwerth chweil hwn gyda swyddog prosiect lleol Cadwch Gymru’n Daclus,” meddai un o’r athrawon, Mrs Hoare.

“Roedd yn rhagorol iddynt ddysgu am effaith baw cŵn a sut i waredu baw ci yn iawn.

“Bydd yr olion pawennau pinc llachar yn ei gwneud yn haws i gerddwyr cŵn ddod o hyd i’r bin agosaf a gwaredu baw eu ci yn gyfrifol.

“Rydym wrth ein bodd yn helpu i gadw ein cymuned leol yn lân ac yn rhydd rhag sbwriel – os ydych yn cerdded eich ci… bagiwch a biniwch eich baw ci.”