Mae plant ysgol ar hyd a lled y wlad wedi bod yn casglu arian at achos da ar ddiwrnod Plant Mewn Angen heddiw (dydd Gwener, 19 Tachwedd).

Un ffordd y mae disgyblion wedi bod yn gwneud hyn yw cymryd rhan yn ‘Her Amdani 2021’ sy’n gofyn i blant Cymru redeg cyfanswm o 2,021 o filltiroedd yr wythnos hon, 15-19 Tachwedd.

Mae disgyblion hefyd wedi bod yn gwisgo gwisgoedd ffansi a chyfrannu at gasgliadau, yn ogystal ag amryw o weithgareddau eraill.

Caiff yr arian sy’n cael ei godi ei ddefnyddio i gefnogi plant a phobl ifanc difreintiedig ledled y Deyrnas Unedig.

Yn Ysgol Rhydypennau, Aberystwyth, mae disgyblion wedi bod wrthi’n codi arian drwy gymryd rhan yr Her Amdani 21, yn ogystal â gweithgareddau eraill ar hyd yr wythnos.

“Codi ymwybyddiaeth”

“Mae hi wedi bod yn wythnos dda chwarae teg, mae’r plant wedi codi dipyn o bres,” meddai Peter Leggett, Pennaeth Ysgol Rhydypennau wrth golwg360.

“Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth y plant am y rhesymau pam ein bod ni’n codi arian.

“Yn aml maen nhw’n cysylltu Pudsey Bear gyda Phlant Mewn Angen ac efallai ddim y bwriad y tu ôl i’r peth.

“Felly rydan ni’n edrych arno fwy o’r ochr lles a bod eu cyfraniadau nhw yn helpu plant eraill.

“Ac yn sicr mae’r plant wedi mwynhau’r gweithgareddau.”

“Gweithgareddau gwahanol”

Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi golygu bod plant yr ysgol heb allu ymgynnull fel un, gyda dosbarthiadau yn gwneud gweithgareddau gwahanol.

Ychwanegodd Peter Leggett:

“Mae’r plant i gyd wedi gwisgo fyny heddiw, ond oherwydd cyfyngiadau covid fyddan ni ddim yn cael cynnal gwasanaeth fel ysgol.

“Bydd hynny yn digwydd yn y dosbarthiadau yn lle.

“Maen nhw wedi gallu cario ‘mlaen gyda’r gweithgareddau, fesul dwy flwyddyn, ar hyd yr wythnos.

“Felly blynyddoedd Meithrin a Derbyn, Un a Dau yn cydweithio, Tri a Phedwar yn gwneud rhywbeth gwahanol, ac wedyn Pump a Chwech.

“Maen nhw i gyd wedi bod yn gwneud gweithgareddau gwahanol felly mae yno amryw o bethau gwahanol wedi bod yn digwydd.

“Ond ffocws heddiw yn benodol yw eu bod nhw’n gwisgo fyny, maen nhw wedi bod yn gwneud heriau rhedeg a chodi pres.”

“Trafodaethau aeddfed”

Mae Ann Gash, Dirprwy Bennaeth Ysgol y Garnedd ym Mangor, wedi dweud wrth golwg360 bod yr ysgol wedi cynnal “trafodaethau aeddfed” gyda’i disgyblion ar ddiwrnod Plant Mewn Angen.

“Mae hi wedi bod yn ddiwrnod gwych, er yn ychydig o sialens i stopio’r plant ifancaf rhag cysgu gan eu bod nhw’n gwisgo pyjamas,” meddai Ann Gash wrth golwg360.

“Rydan ni wedi bod yn gwneud amryw o weithgareddau fel ysgol.

“Mae’r plant wedi bod yn llunio Pudsey ar y buarth ac yna rhoi ceiniogau i lenwi wyneb Pudsey.

“Maen nhw hefyd wedi gwneud yr her rhedeg 2021

“Mae yno gynnwrf yma a mwynhad pur.

“Ryda ni hefyd wedi rhoi gwersi iddyn nhw yn sôn am elusennau allweddol sy’n helpu plant llai ffodus na nhw a sôn am yr heriau amrywiol megis eich bod chi’n anabl, neu yn ofalwr sy’n gofalu am rywun yn y tŷ.

“Ryda ni wedi cael trafodaethau aeddfed efo’r adran iau yn enwedig bod o dan yr hwyl ei bod ni’n eu hatgoffa nhw pam bod diwrnod Plant Mewn Angen yn bodoli.”

Athrawon Brynrefail yn talu teyrnged i Mei Jones

Fe wnaeth athrawon yr Adran Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug, wisgo fel criw C’mon Midffild ar gyfer Plant Mewn Angen er cof am Mei Jones.

Roedd disgyblion ac athrawon yr ysgol yn cael gwisgo gwisgoedd ffansi i ddod i’r ysgol.

Bu farw’r sgriptiwr ag actor yn 68 oed yn ddiweddar, yn dilyn cyfnod o salwch.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am gyd-greu ac actio’r cymeriad Wali Tomos yn C’mon Midffîld – un o’r creadigaethau comedi mwyaf poblogaidd erioed ym maes teledu Cymraeg.

Athrawon Adran Gymraeg Brynefail yn gwisgo fel criw C’mon Midffild er cof am Mei Jones