Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar fin taro bargen i gydweithio yn y Senedd, yn ôl adroddiadau gan yu BBC ac ITV.
Yn ôl y BBC, bydd y ddwy blaid yn cyfarfod fory (20 Tachwedd) i benderfynu a fyddan nhw’n setlo ar gytundeb.
Mae’r BBC ar ddeall fod y cytundeb drafft yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael ag ail dai, yn ogystal â chynlluniau i newid y dreth cyngor a gwasanaethau cymdeithasol, ac ehangu gofal plant am ddim.
Yn siarad gydag ITV Wales heddiw (19 Tachwedd), dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gobeithio y gall trafodaethau ddod i ben dros y penwythnos hwn.
Pe bai’r ddwy blaid yn cytuno i gydweithio, mae’n bosib y daw cyhoeddiad ddechrau’r wythnos nesaf, meddai’r Prif Weinidog.
Ni fydd y cytundeb yn arwain at glymblaid ffurfiol, ac ni fydd Aelodau Plaid Cymru yn y Senedd yn rhan o’r llywodraeth.
Fodd bynnag, mae’r BBC yn dweud eu bod nhw ar ddeall y byddai modd i Blaid Cymru benodi cynghorwyr i weithio ar y cytundeb o fewn y llywodraeth.
Ym mis Medi fe ddywedodd y ddwy blaid, mewn datganiad ar y cyd: “Wrth i Gymru baratoi am ddyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws; wrth ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i ganlyniadau parhaus ymadael â’r Undeb Ewropeaidd; a’r bygythiad i ddatganoli mae’n bwysicach nac erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobl Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin.”
Ar y pryd, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes wrth golwg360 mai ceisio gwneud eu “bywydau’n haws” yw nod Llafur o daro bargen gyda’r Blaid.