Mae adnoddau digidol newydd wedi cael eu datblygu gan Amgueddfa Cymru i gysylltu pobol sy’n byw mewn cartrefi gofal â chasgliadau cenedlaethol Cymru.
Yn dilyn prosiect Cysur mewn Casglu‘r Amgueddfa, mae cyfres o ffilmiau wedi cael eu creu gan artistiaid a phobol greadigol o bob cwr o Gymru er mwyn gwella lles pobol sydd wedi’u hynysu.
Mae’r ffilmiau’n amrywio o daith ar lan y môr wedi’i hysbrydoli gan luniau John Dilwyn Llewelyn, i olwg greadigol ar gasgliad serameg Amgueddfa Cymru, a hanes artist gwydr sydd wedi’i ysbrydoli gan y casgliadau o wydr Rhufeinig.
Mae curaduron yr Amgueddfa wedi bod yn rhannu eu hoff wrthrychau o’r casgliadau hefyd, a bydd cyfres arall o ffilmiau, wedi’u hysbrydoli gan eu dewisiadau, yn cael ei chreu.
Cafodd y ffilmiau eu creu drwy gyllid gan Ymddiriedolaeth Austin a Hope Pilkington ac Ymddiriedolaeth Elusennol D’Oyly Carte, ac maen nhw wedi cael eu creu i’w mwynhau gan bawb, meddai’r Amgueddfa.
Ers mis Medi 2020, mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn creu adnoddau ar gyfer cartrefi a grwpiau gofal sydd eisiau cymryd mewn sgyrsiau a gweithgareddau sy’n seiliedig ar wrthrychau o gasgliadau’r amgueddfa.
“Sbarduno atgofion melys”
Dywedodd Sharon Ford, Rheolwr Rhaglenni Lles Amgueddfa Cymru, eu bod nhw wedi cael” ymateb gwych” gan bobol mewn cartrefi gofal, sydd wedi defnyddio’r adnoddau ac wedi cyfrannu at eu llunio drwy rannu atgofion, rhoi adborth, a chynnig syniadau ar gyfer themâu newydd.
“Gobeithio y gall mwy o gartrefi gofal ar hyd a lled Cymru fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i gychwyn sgyrsiau a sbarduno atgofion melys, ac i wella iechyd meddwl pobl sy’n wynebu cael eu hynysu,” meddai Sharon Ford.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Austin and Hope Pilkington ac Ymddiriedolaeth Elusennol D’Oyly Carte am eu cefnogaeth hael i broject Cysur mewn Casglu. Y gefnogaeth hon sydd wedi’n galluogi ni i ddatblygu mwy o adnoddau.
“Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery sy’n cefnogi gweithgareddau addysg ac ymgysylltu ar hyd ein saith amgueddfa, gan helpu i wireddu projectau fel hwn.”
Cafodd yr adnoddau eu creu gan Amgueddfa Cymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn, Cymdeithas Alzheimer, Innovate Trust a Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf, yn ogystal â nifer o gartrefi a grwpiau yn ne Cymru.