Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau presenoldeb ffliw adar H5N1 mewn haid fach iard gefn o ieir a hwyaid ar Ynys Môn.

Mae ffliw adar yn fath heintus o ffliw sy’n lledaenu ymhlith adar, ac mae’r Gwasanaeth Iechyd yn dweud y gall effeithio ar bobol – ond dim ond mewn achosion prin iawn.

Hyd yma, nid oes unrhyw achosion o bobol yn cael eu heintio â ffliw adar yn y Deyrnas Unedig, meddai’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar.

Mae ffliw adar yn cael ei ledaenu drwy gysylltiad agos ag aderyn heintiedig, p’un a yw wedi marw neu’n fyw.

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mae dau fath o’r feirws – pathogenedd uchel (HPAI) a phathogenedd isel (LPAI).

Mesurau lletya newydd

Mae Ardal Parth Rheoli Clefydau Dros Dro wedi’i greu o amgylch y safle heintiedig ym Môn, i gyfyngu ar y risg o ledu’r clefyd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae’r risg i iechyd y cyhoedd yn isel iawn ac nid yw’r achosion hyn yn peri risg i ddiogelwch bwyd.

Cafodd achos o ffliw adar ei gadarnhau mewn dofednod ac adar gwyllt ym mwrdeistref Sirol Wrecsam fis diwethaf, a chafwyd canfyddiadau tebyg o ffliw adar yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Ddydd Mercher yr wythnos hon cytunodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyflwyno mesurau lletya newydd i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar.

Daw’r mesurau hyn i rym ddydd Llun (29 Tachwedd).

‘Risg isel’

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: “Mae’r cadarnhad hwn o achos o ffliw adar mewn dofednod ar Ynys Môn yn dystiolaeth bellach o’r angen i bob ceidwad adar sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf o fioddiogelwch.

“Rydym wedi cyhoeddi y bydd mesurau lletya newydd yn dod i rym o ddydd Llun nesaf i ddiogelu dofednod ac adar dof, ond mae’n rhaid i mi bwysleisio bod hyn ar ei fwyaf effeithiol o’i gyfuno â gweithredu’r mesurau bioddiogelwch llymaf.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud yn glir nad yw’n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y Deyrnas Unedig.

“Mae parthau rheoli dros dro wedi’u gosod i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.

“Rhaid rhoi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os ydych yn amau ffliw adar neu unrhyw glefyd hysbysadwy arall.”