Mae yna alwadau ar y Llywodraeth i ddod â’r tymor ysgol i ben o leiaf wythnos yn gynt cyn y Nadolig, a hynny i leihau lledaeniad Covid dros yr ŵyl.
Daw hyn wedi i Dr Eilir Hughes ddweud wrth y BBC y byddai gorffen y tymor ysgol yn gynt yn rhoi mwy o siawns o ddod i wybod os oedd plentyn wedi dal covid, cyn cymysgu â theulu a ffrindiau.
Ar hyn o bryd mae ysgolion yn 12 o’r 22 sir yng Nghymru – pob un yn y de – yn gorffen tymor yr hydref ar 17 Rhagfyr, tra bod y gweddill yn gorffen ar 21 neu 22 Rhagfyr.
Y llynedd bu’n rhaid cau ysgolion a cholegau ledled Cymru ar 14 Rhagfyr gyda’r Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams, yn cyflwyno mesurau i ddysgu ar-lein gan ddweud fod hyn yn rhan o “ymdrech genedlaethol i leihau trosglwyddiad Covid-19”.
Ond eleni gyda mwyafrif y boblogaeth wedi eu brechu mae cyfraddau Covid yn parhau i fod yn “uchel iawn ar hyn o bryd” yn ôl Dr Hughes, “yn enwedig yn ein plant a phobl ifanc”.
Yr wythnos ddiwethaf fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru gyngor i gyflwyno’r brechlyn atgyfnerthu i’r rhai dros 40 oed yn o ogystal â chynnig ail ddos i bobl ifanc 16 ac 17.
Cyfyngu lledaenid
Y gobaith yw y bydd y newidiadau yn ychwanegu at ddiogelwch pobl ac yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws yn ystod y gaeaf.
Mae Dr Eilir Hughes, sydd wedi pwyso ar y Llywodraeth dros fesurau i ddiogelu ystafelloedd dosbarth drwy awyru, mae’n bwysig cau ysgolion i atal heintiau ymysg plant.
“Y rheswm mwyaf amlwg [dros gau yn gynt] yw ei fod yn helpu i atal ‘chwaneg o heintiadau ddigwydd ymysg y plant yn ystod y wythnos olaf sy’n arwain at y Nadolig – llai o gymysgu, llai o heintiadau,” meddai.
“Mae llawer o bobl yn aros i gael eu hyblyn, sef y brechiad booster, felly byddai dal y feirws dros y Nadolig, o bosib gan blentyn, yn golygu gohirio ei chael hi ymhellach i’r gaeaf.
“Mae disgwyl i’r cyfraddau uchel barhau wrth i’r tywydd oeri a phobl dreulio mwy o amser o dan do,” meddai’r meddyg o Ben Llŷn.”
Bydd ysgolion y de fel Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen yn cau ar 17 Rhagfyr.
Tra bydd ysgolion Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn dod i ben ar 21 Rhagfyr, tra bod rhai Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Powys, Wrecsam ac Ynys Môn yn cau ar 22 Rhagfyr.
Ychwanegodd y meddyg: “Mae cyfnod y Nadolig yn bwysig i blant, eu teuluoedd a’u hathrawon.”
“Mae’n bwysig i ni i gyd, yn enwedig yn dilyn siom y llynedd, felly mae cael cau’n gynt yn rhoi’r cyfle gorau i bobl gael mwynhau’r Nadolig yn rhydd o haint, a threulio amser gyda’i gilydd yn fwy diogel.”
Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae dyddiadau tymor ysgol yn cael eu penderfynu gan awdurdodau lleol, neu gyrff llywodraethu perthnasol, a gellir eu newid drwy ddilyn y broses statudol.
“Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi unrhyw darfu ar addysg a gofal plant.
“Rydym wedi cyhoeddi fframwaith lleol i helpu ysgolion i weithredu’n ddiogel a theilwra ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg lleol.”