Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am weithredu dros “loteri côd post” addysg Gymraeg yn Sir Benfro.
“Rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan rieni sydd am anfon eu plant i ysgol Gymraeg ond sydd wedi colli’r cyfle hwnnw, naill ai oherwydd nad oes darpariaeth leol ar gael neu fod ysgolion eisoes yn llawn dop,” meddai Paul Davies, AoS Preseli Penfro.
Daw ei sylwadau wrth iddi ddod i’r amlwg fod plant yn cael eu “gwrthod” rhag cael mynediad at addysg Gymraeg yn Sir Benfro oherwydd prinder llefydd mewn ysgolion.
Mae’r Ceidwadwyr Samuel Kurtz a Paul Davies – y ddau Aelod o’r Senedd yn Sir Benfro – yn codi eu pryderon yn dilyn gwaith gan bwyllgor craffu’r cyngor sir a oedd yn dangos nad oes gan blant mewn rhannau sylweddol o’r sir fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
Cafodd cynllun drafft strategaeth Cyngor Sir Benfro – Y Gymraeg mewn Addysg – ei adolygu gan y pwyllgor craffu’r wythnos hon.
Codwyd pryderon yn wreiddiol gan Mike Evans, Cynghorydd o Ddinbych-y-pysgod, a ddywedodd ei bod hi’n beth cadarnhaol bod twf “sylweddol” yn y galw am addysg Gymraeg, ond rhybuddiodd bod rhai disgyblion yn cael eu “troi i ffwrdd gan greu loteri côd post.”
Cynllun hir dymor
Yn ôl Samuel Kurtz, Gweinidog Cysgodol Materion Gwledig a’r Gymraeg y Ceidwadwyr, mae angen strategaeth hir dymor i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Mae cynllun strategol tymor hir yn gwbl angenrheidiol os ydym am barhau i gefnogi’r twf mewn siaradwyr Cymraeg yn Sir Benfro,” meddai.
“Mae’r iaith yn perthyn i bob un ohonom ac mae’n galonogol ei gweld yn tyfu tu fas i’r cadarnleoedd traddodiadol.
“Fodd bynnag, mae’n amlwg i mi nad yw gwasanaethau lleol yn gallu ateb y galw mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.”
Ddechrau’r wythnos fe ddywedodd Huw Jones, y swyddog sy’n gyfrifol am fynediad i ysgolion y sir, bod rhestrau aros ar gyfer dosbarthiadau meithrin a derbyn yn Ysgol Caer Elen, Hwlffordd, a bod “tan-gyflenwad sylweddol mewn llefydd ar hyn o bryd.”
Mae Steven Richards-Downes, Cyfarwyddwr Addysg y sir, hefyd yn dweud y dylid sicrhau fod y strategaeth newydd yn gwneud addysg Gymraeg yn hygyrch ar draws y sir, gyda chais am fwy o arian gan Lywodraeth Cymru i’w ddisgwyl.
Fe ychwanegodd Samuel Kurtz fod y “loteri côd post” yn amlygu’r angen ar Lywodraeth Cymru i gydweithio gydag awdurdodau lleol os ydynt am gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
“Ni ddylai hyn fod yn digwydd, yn enwedig o gofio targed ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru,” meddai.
“Os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna mae’n rhaid iddi weithio gydag awdurdodau lleol – fel Cyngor Sir Penfro – i sicrhau bod y cyflenwad yn cwrdd â’r galw.”
‘Pwysau a straen’
Yn ôl Arweinydd Dros Dro y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, mae rhieni yn etholaeth Preseli Penfro yn dweud fod yr anhawster yn rhoi pwysau a straen arnyn nhw wrth ddewis ysgol i’w plant.
“Allwn ni ddim caniatáu i’r loteri côd post hwn barhau. Mae’n achosi pryder a straen i deuluoedd pan ddylai rhieni gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg os mai dyna yw eu dymuniad,” meddai.
“Rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan rieni sydd am anfon eu plant i ysgol Gymraeg ond sydd wedi colli’r cyfle hwnnw, naill ai oherwydd nad oes darpariaeth leol ar gael neu fod ysgolion eisoes yn llawn dop.
“Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Benfro ddyblu eu hymdrechion a mynd i’r afael â’r mater hwn ar fyrder.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Benfro a Llywodraeth Cymru am ymateb.