Mae’n debyg fod plant yn cael eu “gwrthod” rhag cael addysg Gymraeg yn Sir Benfro oherwydd diffyg lleoedd, yn ôl un cynghorydd.

Cafodd cynllun drafft strategaeth Cyngor Sir Benfro – Y Gymraeg mewn Addysg – ei adolygu gan y pwyllgor craffu’r wythnos hon.

Roedd y Cynghorydd Mike Evans yn dweud ei bod hi’n beth cadarnhaol  bod twf “sylweddol” yn y galw am addysg Gymraeg, ond rhybuddiodd bod rhai disgyblion yn cael eu “troi i ffwrdd gan greu loteri cod post.”

Angen ‘troi’r map i gyd yn wyrdd’

Dywedodd Huw Jones, y swyddog sy’n gyfrifol am dderbyniadau, bod rhestrau aros ar gyfer dosbarthiadau meithrin a derbyn yn Ysgol Caer Elen, Hwlffordd, a bod “tan-gyflenwad sylweddol mewn llefydd ar hyn o bryd.”

Cytunodd Huw Jones a’r cyfarwyddwr addysg, Steven Richards-Downes, y dylid sicrhau fod y strategaeth newydd yn gwneud addysg Gymraeg yn hygyrch ar draws y sir, gyda chais am fwy o arian gan Lywodraeth Cymru i’w ddisgwyl.

Ychwanegodd Richards-Downes mai ei ddyhead oedd “troi’r map i gyd yn wyrdd” i sicrhau fod gan bawb fynediad at addysg Gymraeg.

Darpariaeth ôl-16

Roedd y Cynghorydd Mike Evans hefyd yn holi am ddarpariaeth ôl-16, gan ddweud fod y strategaeth fel y mae ddim yn “ddigon radical.”

Dywedodd swyddogion mewn ymateb i hynny y byddai Coleg Sir Benfro yn cynyddu eu hallbwn.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 23 Tachwedd, dywedodd y Cynghorydd Tony Baron fod unrhyw gynllun “heb amserau a heb gostau yn rhestr ddymuniadau” yn unig, ac y bydd cynllun manwl yn cael ei gyflwyno dros y bum mlynedd nesaf.