Fe enillodd Wrecsam oddi cartref yn erbyn Halifax Town yn y Gynghrair Genedlaethol neithiwr (23 Tachwedd), gyda Paul Mullin yn sgorio gôl hwyr.

Roedd Wrecsam ar ei hôl hi am gyfnod, gyda Jordan Slew yn rhoi’r tîm cartref ar y blaen ar ôl 67 o funudau.

Ond llwyddodd James Jones i unioni’r sgôr gyda’i gôl gyntaf i Wrecsam wedi 83 o funudau.

Yna daeth y foment dyngedfennol wrth i Paul Mullin sgorio ei nawfed gôl o’r tymor ar ddechrau’r amser ychwanegol i sicrhau’r triphwynt i dîm Phil Parkinson.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn codi i wythfed safle’r tabl, dau bwynt oddi wrth y safleoedd gemau ail-gyfle.

Crawley Town 1-1 Casnewydd

Gêm gyfartal gafodd Casnewydd oddi cartref yn erbyn Crawley Town yn Adran Dau.

Ni ddaru’r naill dîm na’r llall lwyddo i greu llawer o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf.

Ond wedi deg munud o’r ail hanner peniodd Kwesi Appiah i mewn i’r rhwyd yn dilyn croesiad gan Jack Powell.

Gallai’r tîm cartref fod wedi dyblu ei mantais oni bai am arbediad gwych gan gôl geidwad Casnewydd Joe Day.

Ond sgoriodd Dominic Telford ar ôl 83 munud i unioni’r sgôr ac achub pwynt i’r Alltudion.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn nawfed yn y tabl, dau bwynt oddi wrth y safleoedd gemau ail-gyfle.