Mae Clwb Criced Essex “yn fyd y dyn gwyn”, yn ôl y trydydd chwaraewr i wneud honiadau o hiliaeth yn erbyn y clwb.

Mewn cyfweliad â’r cylchgrawn The Cricketer, dywed Jahid Ahmed fod “pobol frown ar y tu allan” yn y sir a’i fod e wedi cael ei holi gan gyd-chwaraewr a oedd e’n “mynd i fomio” y clwb.

Mae’r dyn 35 oed hefyd yn honni bod cyd-chwaraewyr ac aelodau’r tîm hyfforddi wedi dynwared ei lais, a’i fod e’n teimlo dan bwysau i fynd i gyfarfod chwaraewyr mewn tafarn wrth ymprydio yn ystod Ramadan.

Chwaraeodd e saith gêm dosbarth cyntaf i’r sir rhwng 2005 a 2009.

Honiadau pellach

Daw honiadau Jahid Ahmed ar ôl i ddau chwaraewr arall adrodd am hiliaeth o fewn y clwb.

Dywedodd Zoheb Sharif iddo gael ei alw’n “fomiwr” yn dilyn ymosodiadau 9/11.

A dywedodd Maurice Chambers ei fod e wedi cael ei fwlio’n hiliol am ddegawd, gan gynnwys chwaraewyr yn taflu bananas ato a bod yn destun jôcs hiliol.

Ymateb

Wrth ymateb, dywed John Stephenson, prif weithredwr Clwb Criced Essex, ei fod yn teimlo’n “ddigalon” yn sgil yr honiadau hanesyddol.

Dywed ei bod hi’n “anodd darllen” am yr honiadau, ac y byddan nhw’n cael eu trin “â’r difrifoldeb mwyaf”, gan annog Jahid Ahmed i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

Mae’r clwb eisoes wedi penodi bargyfreithiwr i ymchwilio i’r holl honiadau, ac maen nhw’n dweud y bydd “ymchwiliad annibynnol trylwyr a manwl” yn cael ei gynnal.

Dywed John Stephenson, cyn-gapten y sir sydd newydd ddechrau yn ei swydd yn brif weithredwr, fod y clwb “wedi cymryd camau breision” yn ddiweddar wrth fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae’n cydnabod fod “llawer o waith i’w wneud”, ond eu bod nhw’n “symud i’r cyfeiriad cywir” a bod y clwb yn “ymfalchïo yn ein gwerthoedd amlddiwylliannol ac amrywiol”.

Ar Dachwedd 11, camodd y cadeirydd John Faragher o’r neilltu yn dilyn honiadau ei fod e wedi defnyddio iaith hiliol yn ystod cyfarfod bwrdd yn 2017, er ei fod yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.

Clwb Criced Essex

Rhagor o honiadau o hiliaeth yng Nghlwb Criced Essex

Daw honiadau Maurice Chambers ddyddiau’n unig ar ôl i Zoheb Sharif godi’i lais
Clwb Criced Essex

Clwb Criced Essex yn ymateb i honiadau o hiliaeth

Daw sylwadau’r prif weithredwr John Stephenson yn dilyn ymddiswyddiad y cadeirydd John Faragher a honiadau gan gyn-chwaraewr