Mae Matt Grimes, capten tîm pêl-droed Abertawe, yn credu y gall helpu’r Elyrch i ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae’r gŵr 26 oed newydd lofnodi cytundeb tair blynedd a hanner sydd yn ei gadw gyda’r clwb tan 2025.
Roedd yno bosibilrwydd y gallai’r chwaraewr canol cae fod wedi gadael y clwb yn ystod yr haf, gyda Fulham yn dangos diddordeb ynddo.
Ond mae’n dweud mai’r awydd i fod yn rhan o daith Abertawe oedd y rheswm y penderfynodd aros.
“Fe wnes i’r penderfyniad oherwydd fy mod i eisiau aros yma,” meddai.
“Nid oedd yn fater o arwyddo am flwyddyn neu ddwy arall fel y gallai’r clwb gael mwy o arian amdana i. Nid oedd hynny’n wir o gwbl.
“Es i at y rheolwr a dweud ‘Rwyf am fod yn rhan o’r prosiect hwn’.
“I fod yn onest gyda chi, byddai wedi torri fy nghalon yn llwyr pe bawn i wedi symud i dîm arall yn y Bencampwriaeth ac wedi gorfod chwarae yn erbyn y math hwn o bêl-droed a chael ein curo yn y ffordd yr ydym wedi curo timau.
“Roedd yn rhaid i mi fod yn rhan ohono, es i’n syth i mewn a dweud ‘Dw i am arwyddo cytundeb newydd yma’.”
‘Cyfnod cyffrous’
“Dw i eisiau bod yma i fynd â’r clwb hwn yn ôl i’r Uwch Gynghrair,” meddai wedyn.
“Dw i ddim yn dweud ein bod yn mynd i gael ein dyrchafu eleni, dw i ddim yn dweud ein bod yn mynd i gael ein dyrchafu’r flwyddyn nesaf, dw i ddim yn dweud ein yn sicr o gael ein dyrchafu, ond dyna yw’r nod.
“Dw i a’r rheolwr yn bobol uchelgeisiol iawn ac rydym am i hynny fynd drwy’r clwb, yn dechrau o’r top ac yn gweithio ei ffordd i lawr i’r holl chwaraewyr.
“Mae’n rhaid i ni anelu am yr Uwch Gynghrair. Does dim diben goroesi a gorffen yng nghanol y tabl flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid dyna rydyn ni ei eisiau.
“Rydyn ni’n adeiladu tuag at ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair. Os gall pawb weld hynny yna gobeithio fod cyfnod cyffrous o’n blaenau yn Abertawe.”