Gallai Kieffer Moore ddychwelyd i dîm pêl-droed Caerdydd pan fyddan nhw’n herio Hull yn y Bencampwriaeth nos fory (nos Fercher, Tachwedd 24).

Fe wnaeth yr ymosodwr fethu’r fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Preston ddydd Sadwrn (Tachwedd 27) ar ôl cael ei anafu yng ngêm gyfartal Cymru yn erbyn Gwlad Belg.

Ond mae’r Cymro bellach yn holliach, a gallai Steve Morison ei ddewis i ddechrau’r gêm.

Dychwelodd yr amddiffynnwr Tom Sang, sydd heb chwarae ers mis Medi oherwydd anaf i’w fawd, i’r fainc dros y penwythnos, tra bod y chwaraewr canol cae Sam Bowen yn parhau i weithio ei ffordd yn ôl o broblem gyda’i droed.

Y gwrthwynebwyr

Bydd Hull heb yr amddiffynnwr Di’Shon Bernard ar gyfer y daith i dde Cymru.

Cafodd y gŵr sydd ar fenthyg o Manchester United ei bumed cerdyn melyn o’r tymor yn y fuddugoliaeth o 2-0 dros Birmingham ddydd Sadwrn (Tachwedd 20) ac mae e wedi ei wahardd am un gêm o ganlyniad.

Mae rheolwr Hull, Grant McCann, yn brin o amddiffynwyr, gyda Lewie Coyle, Alfie Jones a Josh Emmanuel allan.

Sean McLoughlin a Jacob Greaves yw ei unig amddiffynwyr holliach, tra bod y canolwr Tom Huddlestone yn gweithio ei ffordd yn ôl o anaf.