Mae angen i gapten Cymru Alun Wyn Jones gael triniaeth arall ar ei ysgwydd ar ôl cael ei anafu yn ystod Cyfres yr Hydref.
Fe ddioddefodd y clo anaf yn hanner cyntaf y golled 54-16 yn erbyn Seland Newydd ddiwedd mis Hydref.
Mae’n debyg bod y gnoc yn barhad o’r anaf a gafodd yn ystod Cyfres y Llewod dros yr Haf, pan gafodd wellhad syfrdanol a olygodd ei fod yn holliach i chwarae’r gemau prawf yn erbyn De Affrica ar ddiwedd y gyfres.
Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, mae amheuon a fydd y chwaraewr, sydd â 149 o gapiau i’w wlad, yn gallu dychwelyd i ddyletswyddau rhyngwladol erbyn Cystadleuaeth y Chwe Gwlad flwyddyn nesaf.
Byddai hynny’n golygu bod rhaid i Jones, sy’n 36 oed, ddisgwyl tan o leiaf yr haf flwyddyn nesaf er mwyn ennill cap rhif 150 i Gymru, ac ymestyn ei record fel y chwaraewr sydd â’r mwyaf o gapiau yn hanes rygbi rhyngwladol.
Llawdriniaeth
Fe gadarnhaodd Toby Booth – prif hyfforddwr y Gweilch, lle mae Alun Wyn Jones yn chwarae – y byddai’n rhaid iddo gael ail driniaeth i’w ysgwydd.
“Mae wedi cael un llawdriniaeth, ac mae angen ail arno,” meddai.
“Felly byddwn ni ddim yn gwybod am ei ffitrwydd nes bod yr ail un yn cael ei wneud mewn cwpl o wythnosau.”
“Hyd yn oed gyda’r sganiau gorau yn y byd, dydych chi ddim am wybod nes eich bod chi’n cyrraedd yna.
“Ond mae Al wastad yn hyderus iawn, a byddwn ni’n rhoi popeth o’i gwmpas i sicrhau ei fod yn gwella mor sydyn â phosib.”
Ychwanegodd Booth bod ei gapten yn hyderus o chwarae eto cyn diwedd y tymor hwn.
“Y peth gwaethaf gallwch chi ddweud wrtho ydi bod e ddim am wneud rhywbeth,” meddai.
“Mae ganddo’r agwedd a’r meddylfryd, a dyna beth sy’n ei osod ar ben llawer o bobol eraill.
“Rydyn ni am ei gael yn ôl mor gyflym â mae ei feddwl a’i gorff yn ei ganiatáu. Rydyn ni’n hyderus iawn am hynny.”
Capten
Ar ôl colli ei le yng ngharfan Cymru, cafodd Jonathan Davies ei enwi yn gapten.
Er hynny, ni chwaraeodd y canolwr yn erbyn Ffiji ac Awstralia, ac fe wnaeth Ellis Jenkins wisgo’r band braich yn lle.
Llwyddodd Cymru i ennill y ddwy gêm hynny, er gwaethaf rhestr anafiadau estynedig a pherfformiadau di-fflach.
Eu gêm nesaf yw gornest gyntaf y Chwe Gwlad yn 2022, gyda thrip i Ddulyn i herio’r Gwyddelod yn wynebu dynion Wayne Pivac ar 5 Chwefror.
- Gallwch ddarllen barn Gwyn Jones am berfformiad Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn Golwg yr wythnos hon, isod