Mae cyn-reolwr Caerdydd ac Abertawe, Frank Burrows, wedi marw yn 77 oed.

Cafodd ddau gyfnod ar wahân yng ngofal Caerdydd, a bu hefyd yn rheoli Abertawe.

Llywiodd Portsmouth i ddyrchafiad o’r hen Bedwaredd Adran yn 1979-80, ac ailadroddodd y gamp honno yng Nghaerdydd yn 1987-88.

Yn ystod ei bedair blynedd yn Abertawe fe’u harweiniodd i fuddugoliaeth yn rownd derfynol Cwpan Cymru 1991 a rownd derfynol Tlws Cynghrair Pêl-droed Lloegr yn 1994.

Dychwelodd am ail gyfnod yng Nghaerdydd yn 1998 gan arwain yr Adar Gleision i ddyrchafiad i’r hen Adran Dau yn 1998-99.

Roedd hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Harry Redknapp yn West Ham, a chafodd gyfnodau gyda West Bromwich Albion a Chaerlŷr yn ogystal.

Fel chwaraewr, roedd yn rhan o dîm Swindon gurodd Arsenal 3-1 i ennill rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn Wembley yn 1969.

Teyrngedau

“Roedd pob un ohonom yng Nghaerdydd yn drist o glywed am farwolaeth cyn-reolwr yr Adar Gleision, Frank Burrows, yn 77 oed yn gynharach heddiw,” meddai datganiad gan Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

“Mae ein meddyliau i gyd gyda ffrindiau a theulu Frank ar yr adeg drist hon.

“Cwsg mewn hedd, Frank.”

“Mae Dinas Abertawe yn drist o glywed am farwolaeth ein cyn-reolwr Frank Burrows,” meddai datganiad gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

“Roedd Frank yn ffigwr poblogaidd ac annwyl iawn yn yr Elyrch ac o fewn pêl-droed Cymru, ac mae pawb yn Ninas Abertawe yn anfon eu cydymdeimlad diffuant at deulu a ffrindiau Frank ar yr adeg drist hon.

“Bydd y tîm cyntaf yn gwisgo bandiau braich du er cof amdano ar gyfer y gêm Bencampwriaeth heno yn erbyn Barnsley cyn teyrnged arall yn y gêm gartref ddydd Sadwrn yn erbyn Reading.”