Mae chwaraewr canol cae Cymru, Carrie Jones, yn dweud ei bod wedi gwireddu breuddwyd ar ôl arwyddo cytundeb proffesiynol gyda Manchester United.

Gwnaeth Carrie Jones ei hymddangosiad cyntaf i Gymru pan oedd hi’n 15 oed yn erbyn yr Ynysoedd Faroe yn 2019.

Mae hi’n cyfaddef ei hi wedi ceisio dwyn y feiro wnaeth hi ddefnyddio i arwyddo ei chytundeb… a hynny ar ôl i swyddog y wasg ddweud wrthi ei bod hi’n debygol mai hwnnw ddefnyddiodd Cristiano Ronaldo i arwyddo ei gytundeb ef!

“Mae’n anhygoel, dyma oedd fy mreuddwyd i ers yr oeddwn i’n fechan ac mae’r ffaith fy mod i wedi gwireddu’r freuddwyd honno yn wallgof,” meddai wrth BBC Sport Wales.

“Weithiau mae’n rhaid i ti gymryd saib ac edrych ar ba mor bell yr wyt ti wedi dod.

“Fel pêl-droedwyr rydyn ni wastad yn edrych ymlaen at y sialens nesaf, ond mae hyn wedi galluogi i mi gymryd moment a meddwl ‘Waw, yli pa mor bell yr wyt ti wedi dod’.

“Mae’n foment anhygoel i mi ac i fy nheulu.

“Pan ddywedodd swyddog y wasg wrtha i ei bod hi’n debygol fod Ronaldo wedi gafael yn y feiro, roeddwn i eisiau ei roi yn fy mhoced.

“Ond na, mae o jyst yn deimlad anhygoel i arwyddo cytundeb gyda chlwb enfawr.”

Dwy gêm fawr i Gymru

Mae Carrie Jones yn rhan o garfan Cymru fydd yn herio Gwlad Groeg ar Barc y Scarlets ddydd Gwener (26 Tachwedd), gyda’r gic gyntaf am 7:15yh.

Yna bydd carfan Gemma Grainger yn teithio i Lydaw i chwarae yn erbyn Ffrainc ddydd Mawrth (30 Tachwedd).

Mae Cymru yn mynd i mewn i’r gemau yn ail yn y grŵp, y tu ôl i Ffrainc, ar ôl tair buddugoliaeth a gêm gyfartal i ddechrau’r ymgyrch.

Dim ond un gôl y mae Cymru wedi ei ildio hyd yma.

Mae gan Ffrainc record berffaith o bedair buddugoliaeth cyn eu gêm gartref yn erbyn Kazakhstan.