Roedd ymateb rheolwyr Abertawe a Chaerdydd yn dra gwahanol i’w gilydd neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 24), wrth iddyn nhw ymateb i ganlyniadau eu timau.

Roedd buddugoliaeth o 2-0 i’r Elyrch yn Barnsley, ac roedd Russell Martin yn gwrthod cymryd clod ar ôl i’r eilyddion Olivier Ntcham a Ryan Manning danio i sicrhau’r triphwynt.

Rhwydodd Ntcham ar ôl 74 munud oddi ar groesiad Manning i roi’r Elyrch ar y blaen, gyda Jamie Paterson yn sgorio’r ail gôl bum munud yn ddiweddarach i selio’r fuddugoliaeth.

“Roedd hynny i fyny iddyn nhw, nid ni,” meddai’r rheolwr.

“Wnaeth Olivier chwistrellu tipyn o fomentwm wrth symud ymlaen ac mae e’n chwarae’n hollol hyderus.

“Fe wnaeth e godi’r tîm yn sicr, a dangosodd Ryan Manning ei bwyll hefyd ar gyfer y croesiad. Roedd yn symudiad da ac yn gôl wych.”

Cefnogwyr Caerdydd yn lleisio’u dicter

Llun oddi ar wefan Clwb Pêl-droed Caerdydd

Ar ôl i’r Adar Gleision golli o 1-0 yn erbyn Hull, roedd y rheolwr dros dro, Steve Morison yn galw am gefnogaeth gan y cefnogwyr ar ôl iddyn nhw leisio’u dicter ar ddiwedd yr hanner cyntaf ac eto ar ddiwedd y gêm.

Daeth unig gôl y gêm wrth i George Honeyman daro cic gornel i mewn o’r chwith, cyn i Ryan Longman ddarparu’r bàs fach bwt i Keane Lewis-Potter sgorio o ymyl y cwrt chwech.

Roedd ymateb y cefnogwyr yn glir i’w weld bryd hynny ac eto pan gafodd Leandro Bacuna ei dynnu oddi ar y cae i fonllef o gymeradwyaeth sarhaus – rhywbeth mae Morison yn dweud nad oedd e wedi sylwi arno ar y pryd.

“Fe wnes i ddewis Leo oherwydd mae Leo yn chwaraewr da iawn, iawn,” meddai.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n chwarae’n dda yn yr ail hanner, a’i bod hi’n annheg ei dynnu fe oddi ar y cae.

“Roeddwn i eisiau ei newid a chael Rubin Colwill i mewn i’r gêm, a wnaeth hynny ddim gweithio chwaith.

“Dw i ddim am gael fy nal yng nghanol nonsens. Dw i ddim yn ei ddeall, a bod yn onest.

“Mae’n rhaid ei fod e’n ymwneud â lle’r ydyn ni yn y gynghrair oherwydd rydyn ni wedi ennill gemau o’r bron. Os ydyn ni am gael allan o hyn, mae’n mynd i gymryd pawb [i’w wneud e].”