Roedd disgwyl i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr gyhoeddi cynllun gweithredu 12 pwynt heddiw (dydd Iau, Tachwedd 25) i fynd i’r afael â hiliaeth o fewn y gamp, ond daeth cadarnhad bellach fod oedi ac na fydd yn cael ei gyhoeddi tan fory (dydd Gwener, Tachwedd 26).

Cafodd cyfarfod ei gynnal rhwng y Bwrdd a’r 18 sir broffesiynol yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn honiadau gan Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Swydd Efrog, a nifer o unigolion eraill.

Bwriad y cynllun gweithredu yw gwyrdroi’r diwylliant sy’n bodoli o fewn ystafelloedd newid ac ar lefel pwyllgorau.

Y gred yw y gallai unrhyw sir sy’n methu â mynd i’r afael â’r sefyllfa drwy weithredu’r cynllun golli swm sylweddol o arian gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Mae disgwyl y bydd rhaid i siroedd ethol cyfran o aelodau o gefndiroedd lleiafrifol fel rhan o’r cynllun.

Cyn-gapten Lloegr dan y lach

Yn y cyfamser, daeth cadarnhad na fydd Michael Vaughan, cyn-gapten Lloegr, yn rhan o dîm sylwebu’r BBC ar gyfer Cyfres y Lludw dros y gaeaf.

Cafodd Vaughan, a dreuliodd ei yrfa gyfan gyda Swydd Efrog, ei enwi gan Azeem Rafiq fel un oedd wedi gwneud sylwadau hiliol am chwaraewyr Asiaidd y sir.

Yn ôl y Gorfforaeth, fe fyddai’n “wrthdaro buddiannau” pe bai’n cael sylwebu, gan fod y mater yn debygol o gael ei drafod yn ystod sylwebaethau.

Cafodd Vaughan ei dynnu oddi ar yr awyr yn gynharach y mis hwn ar ôl iddi ddod i’r amlwg yn ystod tystiolaeth Azeem Rafiq gerbron pwyllgor seneddol yn San Steffan fod Vaughan wedi dweud bod “rhaid gwneud rhywbeth” am nifer y chwaraewyr Asiaidd oedd yn chwarae i Swydd Efrog yn 2009.

Mae Vaughan wedi gwadu’r honiadau “cwbl ffals”, ac mae’n dweud ei fod e’n “siomedig iawn” ynghylch penderfyniad y BBC, ond y bydd yn teithio i Awstralia i weithio i Fox Sports.

Sajid Javid

Hiliaeth: awdurdodau chwaraeon ‘ddim yn gwneud digon’

Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn ymateb i’r ffrae yn y byd criced
Azeem Rafiq

Awdurdodau criced yn ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth

Y siroedd dosbarth cyntaf yn cytuno ar gynllun gweithredu 12 pwynt
Azeem Rafiq

Azeem Rafiq yn gobeithio agor y llifddorau fel bod mwy o chwaraewyr yn codi’u lleisiau

Mae’r cyn-gricedwr gyda Swydd Efrog yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor yn San Steffan
Azeem Rafiq

Azeem Rafiq yn datgelu ei brofiadau o hiliaeth wrth bwyllgor seneddol

Mae cyn-gricedwr Swydd Efrog wedi bod yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor seneddol sy’n cynnal ymchwiliad i’r honiadau