Mae Jay Harris, y paffiwr o Abertawe, yn gobeithio y gall buddugoliaeth dros Hector Gabriel Flores ei roi ar y trywydd cywir am gyfle i gystadlu am deitl byd.

Daw hyn wrth i’r ddau ddyn baratoi i gyfarfod ar gyfer teitl pwysau pry ysgafn y WBA ar #MTKFightNight dydd Gwener (Tachwedd 26).

Byddan nhw’n brwydro mewn digwyddiad sydd wedi cael ei hyrwyddo ar y cyd gan MTK Global a Mo Prior yn y Vale Sports Arena yng Nghaerdydd, gyda’r digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw yn yr Unol Daleithiau ar ESPN+ ar y cyd â Top Rank, ac yn fyd-eang ar IFL TV.

Mae Harris, sydd â record o 18 buddugoliaeth a dwy golled, yn gostwng o’r pwysau pry i gystadlu mewn dosbarth pwysau newydd pan fydd yn wynebu Flores – sydd erioed wedi colli (18-0-4) – ac mae gan ymladdwr Abertawe uchelgeisiau mawr yn yr adran bwysau hon.

‘Torf gartref’

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn paffio yn ôl yng Nghymru,” meddai.

“Dydw i ddim wedi ymladd yno ers 2019 ac rwy’n edrych ymlaen at dorf gartref.

“Rwy’n mynd â llawer o gefnogwyr i fyny yno o Abertawe, ac mae gennym fachgen Abertawe lleol arall ar y bil, Ben Crocker, felly rwy’n credu y bydd yno awyrgylch wych.

“Rwy’n hapus â’r her newydd hon yn yr adran bwysau newydd.

“Fe wnes i wyth stôn yn gyfforddus y tro diwethaf, felly nawr rwy’n barod ar gyfer y bennod newydd hon.

“Mae fy ngwrthwynebydd Hector Flores yn ddi-guro gyda 18 buddugoliaeth a phedair gornest gyfartal, ac rwyf wedi gweld cwpl o fideos o rai o’i frwydrau.

“Bydd e’n bendant yn awyddus i gwffio ac yn gryf, ond dw i’n barod am unrhyw beth.

“Rwy’n credu y bydd yn dod yn syth ymlaen, felly dylai fod yn ornest ffrwydrol a bydd tân gwyllt.

“Mae’n wych cael bod yn ymladd am deitl yn syth hefyd.

“Mae’n rhoi’r wefr ychwanegol honno i chi, ac alla i ddim aros i ychwanegu teitl Rhyng-gyfandirol y WBA at fy nghasgliad.

“Mae’r adran pwysau ysgafn yn gystadleuol iawn.

“Rydw i wedi cael golwg ar holl bencampwyr y byd a’r rhai sy’n herio’n agos at y brig, ac rwy’n edrych ymlaen at gystadlu â nhw.”