Mae Jonathan Barnett, asiant Gareth Bale, wedi cyhuddo cefnogwyr Real Madrid o ymddwyn yn “ffiaidd” tuag at y Cymro.
Roedd yn siarad â gohebwyr ym maes awyr Madrid pan wnaeth y sylwadau.
Daw hyn ar ôl i gefnogwyr weiddi sylwadau cas ar Bale ger canolfan hyfforddi Valdebebas y clwb yn ddiweddar.
Roedd hyn mewn ymateb i’r ffaith fod y gŵr 32 oed wedi ei anafu ar hyn o bryd.
‘Pam ddylwn i boeni?’
Dywed Jonathan Barnett nad yw’n poeni beth mae cefnogwyr y clwb yn ei feddwl am Gareth Bale, gan feirniadu’r ffordd maen nhw wedi trin y chwaraewr dros y blynyddoedd.
“Dydw i ddim yn poeni, pam ddylwn i boeni?” meddai wrth El Chiringuito – rhaglen deledu bêl-droed yn Sbaen – pan gafodd ei holi a oedd o’n ystyried barn cefnogwyr Real Madrid.
“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi bod yn ffiaidd tuag at Gareth Bale.”
Yn ddiweddarach, siaradodd hefyd â Deportes Cuatro – gwefan newyddion chwaraeon – a chafodd ei holi eto am ddyfodol y Cymro.
“Rhaid i ni aros i weld [os bydd yn aros am y tymor nesaf],” meddai.
“Mae’n byw yma ac mae ei deulu yma. Mae’n caru Madrid.”