Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Gemma Grainger, yn hyderus eu bod nhw’n mynd i’r cyfeiriad iawn wrth baratoi at gemau nesaf ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023.
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn eistedd yn ail yng ngrŵp I gyda deg o bwyntiau, a thri phwynt yn glir o Slofenia yn drydydd.
Byddan nhw’n herio Gwlad Groeg yn Llanelli heno (26 Tachwedd), ar ôl ennill tri a chael un gêm gyfartal yn y pedwar rhagbrawf cyntaf.
Yna, byddan nhw’n cael gornest galetach oddi cartref yn erbyn arweinwyr y grŵp, Ffrainc, ddydd Mawrth (30 Tachwedd).
‘Fel chwyrligwgan’
“Rydw i wedi mwynhau pob munud ohono,” meddai Grainger, a olynodd Jayne Ludlow ym mis Mawrth.
“Mae wedi bod fel chwyrligwgan a byddwn ni hanner ffordd drwy’r ymgyrch ar ôl y gemau nesaf, ond fydda i yn bendant angen ymlacio wedi rheiny!
“Rydych chi’n gallu gweld y momentwm, y cymhelliant a’r angerdd yma, ac mae pob gwersyll yn gam i’r cyfeiriad iawn.
“Mae ein ffordd o chwarae wedi datblygu, yn ogystal â phwy ydyn ni fel pobol, ac mae datblygu’r hunaniaeth honno fel tîm wedi parhau’r holl ffordd.”
Y gwrthwynebwyr
Mae Gwlad Groeg wedi ennill dwy, ond wedi colli dwy o’u pedwar gêm ragbrofol Grŵp I gyntaf.
Cyrhaeddodd Ffrainc ffigyrau dwbl yn erbyn y Groegiaid mewn buddugoliaeth oddi cartref ym mis Medi, gan ennill 10-0, ond mae Grainger yn mynnu na fydd Cymru’n llaesu dwylo o flaen y dorf o 4,000 a mwy ym Mharc y Scarlets.
“Rydyn ni wedi gweld fod gan Wlad Groeg gryfder da iawn yn eu meddiant a rhai chwaraewyr da,” meddai.
“Wrth wylio eu gemau blaenorol, rydyn ni’n gweld bod ganddyn nhw rai rhinweddau, ond rydyn ni hefyd yn gweld elfennau lle byddwn ni’n ceisio manteisio arnynt.
“Bydd rhaid cael amynedd. Mae’r meddylfryd hwnnw ynglŷn â bod yn ddidostur yr un peth dim bwys a ydyn ni’n sgorio’n gynnar neu’n hwyr yn y gêm.”
Chwaraewraig gorau America
Bydd chwaraewraig mwyaf profiadol Cymru, Jess Fishlock, sydd newydd ennill gwobr MVP yng nghynghrair America, yn ennill ei 128fed cap yn erbyn y Groegiaid.
Dywedodd capten Cymru Sophie Ingle amdani: “Rydyn ni gyd mor falch ohoni, a’n gwneud yn siŵr ei bod hi’n gwybod hynny.
“Rydyn ni’n ei chefnogi hi tra ei bod hi yma, ac mae’n wych gweld beth mae hi wedi gwneud ar ôl dod yn ôl o anaf.
“Mae hi’n parhau i gystadlu wythnos ar ôl wythnos yn America, ac mae bod yn MVP yno yn gyflawniad arbennig.”