Bydd Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn Qatar heddiw (dydd Gwener, 26 Tachwedd), gyda’r enwau’n dod allan o’r het am bedwar y prynhawn yma.

Mae yna 12 o wledydd yn yr het, gyda’r chwe thîm dethol yn chwarae gartref yn y rownd gyntaf – ac mae Cymru yn un o’r rheiny.

Golyga’r gêm gyfartal gartref yn erbyn Gwlad Belg fod Cymru wedi gorffen yn ail yn y grŵp, ac felly yn un o’r timau fydd yn chwarae gartref yn rownd gyntaf y gemau ail gyfle.

Y timau allai Cymru wynebu yn y rownd gyntaf felly yw Awstria, Gogledd Macedonia, Twrci, Gwlad Pwyl, Wcráin a’r Weriniaeth Tsiec.

Fe gafodd Cymru bedwar pwynt yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yng ngemau’r grŵp, tra bod dynion Rob Page hefyd wedi rhoi cweir i Twrci yn yr Ewros.

Ymysg y detholion yn rownd y gemau ail gyfle, mae’r Eidal, Portiwgal, yr Alban, Rwsia a Sweden.

Ail gêm

Rŵan, mae pethau’n dechrau mynd ychydig yn gymhleth.

Mae’r draw yn golygu rhannu’r 12 gwlad i dri grŵp o bedwar tîm.

Bydd enillwyr y gemau cyntaf ymhob grŵp yn herio ei gilydd mewn ‘ffeinal’, i benderfynu pwy fydd yn hawlio’r tri lle sydd ar gael yn Qatar.

Ar ôl i’r enwau ddod allan o’r het, bydd pob gwlad yn gwybod pa dri tîm arall sydd yn eu grŵp.

Felly fe fydd Cymru yn gwybod pa ddau dîm sy’n sefyll rhyngddyn nhw a lle yng Nghwpan y Byd.

Nid yw’r system ddethol yn berthnasol ar gyfer y tri rownd derfynol, gyda pha dîm sy’n chwarae gartref yn dibynnu ar y drefn y caiff timau eu tynnu allan o’r het.

Felly er bod gêm ail gyfle gyntaf Cymru gartref, does dim dal lle fyddai’r ail un yn cael ei chynnal, pe bae Cymru yn llwyddo i sicrhau honno.

Bydd y rownd gyntaf a’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal dros gyfnod o bum diwrnod rhwng 24 a 29 Mawrth.