Mae bocsio amatur yn gysylltiedig â risg uwch o nam ar yr ymennydd a dementia, yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd.

Canfu’r tîm ymchwil fod dynion a oedd wedi bocsio yn eu hieuenctid, ddwywaith yn fwy tebygol o fod â nam tebyg i Alzheimer na’r rhai nad oeddent wedi bocsio.

Ar ben hynny mae eu dementia’n dechrau datblygu ar gyfartaledd bum mlynedd yn gynharach nag ymysg y rheiny sydd erioed wedi bocsio.

Dywedon nhw fod eu canfyddiadau’n awgrymu y dylid ystyried gwaharddiad ar ergydion i’r pen yn y gamp amatur.

Astudiaeth yn para 35 o flynyddoedd

Dilynodd Prifysgol Caerdydd 2,500 o ddynion o Gaerffili dros 35 mlynedd ar gyfer yr astudiaeth.

Roedden nhw rhwng 45 a 59 oed pan ddechreuodd yr astudiaeth yn 1979.

Ar ddiwedd yr astudiaeth yn 2014, casglwyd tystiolaeth o ddementia o gofnodion meddygol.

Dywedodd yr awdur arweiniol, yr Athro Peter Elwood, Athro Anrhydeddus yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae’n hysbys bod bocsio proffesiynol yn achosi anaf trawmatig i’r ymennydd – ond ni fu llawer o ymchwil hirdymor ar y mater hwn mewn bocsio amatur.

“Mae ein hastudiaeth felly’n darparu rhywfaint o’r dystiolaeth orau sydd ar gael sy’n awgrymu bod bocsio amatur yn gysylltiedig ag anaf hirdymor i’r ymennydd.

“Dros y blynyddoedd mae cyflwyno rheolau yn y gamp amatur, gyda gornestau byrrach a gorfod gwisgo gwisg ben, yn golygu bod y siawns o anaf difrifol i’r ymennydd yn llawer llai – ond mae effaith hirdymor wirioneddol o hyd.

“Mae’n ymddangos bod gwahardd ergydion i’r pen yn fesur derbyniol, gan nad oes angen i hyn leihau’r agwedd gystadleuol ar y gamp ond byddai’n cadw ei fanteision corfforol a chymdeithasol.”