Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn gobeithio ymestyn eu rhediad heb golli yn erbyn Gwlad Groeg heno (nos Wener, 26 Tachwedd).

Mae carfan Gemma Grainger wedi ennill tair a chael un gêm gyfartal yn eu pedair gêm gyntaf yn ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2023, gan sgorio 12 gôl.

Bydd y gwrthwynebwyr, Gwlad Groeg – sydd bedwar pwynt tu ôl i Gymru – yn gobeithio creu argraff ar ôl canlyniadau sâl ar ddechrau’r ymgyrch yn erbyn Ffrainc a Slofenia, gyda’u hunig ddwy fuddugoliaeth hyd yn hyn yn erbyn Kazakhstan gartref ac oddi cartref.

Unwaith eto, mae posib bydd y merched yn denu torf niferus, gyda dros 4,000 o bobol i’w disgwyl ym Mharc y Scarlets.

Mae mwy o docynnau ar gael ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae’r gic gyntaf heno am 19:15.

‘Cysondeb’

Bydd Jess Fishlock fwy na thebyg yn ennill ei 128fed cap rhyngwladol yn erbyn y Groegiaid.

Fe wnaeth y chwaraewr canol cae, a enillodd gwobr Chwaraewraig Orau America eleni, ddweud bod angen perfformiadau’r un mor dda yn erbyn Gwlad Groeg a Ffrainc nos Fawrth nesaf (30 Tachwedd).

“Rwy’n credu mai’r peth pwysicaf i ni yn mynd i mewn i’r gemau hyn yw cysondeb,” meddai Fishlock wrth BBC Radio Wales.

“Mae pob gêm ryngwladol yn anodd ac mae pob tîm yn rhoi heriau gwahanol i chi.

“Felly byddwn yn canolbwyntio ar Wlad Groeg ac yn gobeithio rhoi perfformiad da i mewn, ac yna byddwn yn edrych tuag at y gêm fawr yn erbyn Ffrainc a dangos ein bod ni’n gallu cystadlu.

“Ond mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n herio Gwlad Groeg gyda’r un meddylfryd â Ffrainc.”