Gêm gartref yn erbyn Reading sy’n wynebu Abertawe yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn, gyda’r gic gyntaf am dris ar ddydd Sadwrn, 27 Tachwedd.

Bydd gan y rheolwr Russell Martin garfan lawn i herio’r tîm o Berkshire, sy’n cael trafferthion ariannol oddi ar y cae yn ddiweddar.

Mae’r Elyrch wedi cael rhediad mwy addawol dros y mis diwethaf ar ôl cael dechreuad gweddol araf i’r tymor.

Fe gawson nhw fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Barnsley yng nghanol yr wythnos, gan ennill o ddwy gôl i ddim a mwynhau 79% o’r meddiant.

Fe gollodd Reading chwe phwynt yn y Bencampwriaeth wythnos diwethaf ar ôl torri rheolau ariannol Cynghrair Bêl-droed Lloegr, sy’n golygu eu bod nhw un safle uwchben y dibyn.

Fel arall, byddan nhw wedi bod yn un o’r timau sy’n cystadlu am safle ail-gyfle, ac mae eu saith buddugoliaeth eleni gystal ag Abertawe.

Bydd cic gyntaf y gêm yn Stadiwm Swansea.com bnawn Sadwrn am dri, gyda sylwebaeth ar gael ar raglen Chwaraeon Radio Cymru.

Trydydd tro yn anlwcus?

Y gêm yn erbyn Reading yw trydedd gêm Abertawe mewn cyfnod o saith diwrnod, ac mae ganddyn nhw record wael mewn gemau o’r fath.

“Mae ‘na ychydig o gyrff blinedig o ganol wythnos, ac mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol mai hon yw’r drydedd gêm yn yr wythnos,” meddai Russell Martin.

“Bydd rhaid inni ddysgu o’r colledion yn erbyn Bournemouth a Birmingham, gan fod y rheiny hefyd wedi bod yn drydedd gêm mewn wythnos.

Russell Martin
Russell Martin, rheolwr Abertawe

“Ond y tro hwn, mae gennyn ni gêm gartref yn hytrach na dwy gêm oddi cartref, felly does dim rhaid teithio’r tro hwn. Adfer yr egni ar ddiwedd yr wythnos yw’r peth pwysig nawr.

“Rydyn ni wedi cael dwy gêm anodd iawn yn erbyn Blackpool a Barnsley, ac mae dod allan ohoni fel sydd gyda ni yn braf iawn.

“Mae yna lawer o waith i’w wneud, a chynnydd i’w wneud.”

Y gwrthwynebwyr

Colli wnaeth Reading yn ystod yr wythnos yn erbyn Sheffield United – gêm a gafodd ei chysgodi gan gwmwl du ar ôl i chwaraewr canol cae Sheffield, John Fleck, gwympo ar y cae, a chael ei drin ar y cae.

Cafodd Fleck ei dynnu o’r cae yn ddiweddarach, ac roedd yn ymwybodol pan gyrhaeddodd yr ysbyty.

Mae cyn-chwaraewr Barcelona, Alen Halilovic, yn ogystal â Femi Azeez a Dejan Tetek wedi dychwelyd i’r garfan yn ystod yr wythnos, ond fydd eu hymosodwr newydd a phrofiadol, Andy Carroll, ddim ar gael.