Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu cronfa newydd i gefnogi cyfleoedd i’w myfyrwyr astudio yn Ewrop.

Bydd arian yn cael ei ddarparu yn dilyn rhodd gan y cyn-fyfyriwr, William Parker, sydd wedi rhoi dros £500,000 i sefydlu’r Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd.

Drwy’r fenter, bydd modd i fyfyrwyr is-raddedig neu ôl-raddedig astudio, gweithio neu fynychu cynadleddau yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda grantiau o rhwng £500 a £3,000 ar gael.

Gallan nhw hefyd geisio am arian ychwanegol i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy ac ar gyfer hyfforddiant iaith, gyda’r arian yn ddigon i gyllido cyfnod o hyd at bedair wythnos i ddechrau.

Cronfa

Mae William Parker wedi gweithio ym meysydd peirianneg a thelegyfathrebu yn ystod ei yrfa.

Fe ddarparodd yr arian ar gyfer y cynllun gan ei fod yn angerddol am ddysgu ieithoedd a cheisio cyfleoedd gweithio dramor, ac mae o ei hun yn ystyried ei hun fel Ewropead.

Bu’n fyfyriwr yn Aberystwyth ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au, gan dreulio mis yn astudio Ffrangeg yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Fe ddarparodd Prifysgol Aberystwyth ddechreuad ardderchog i mi yn fy ngyrfa broffesiynol ac rwy’n falch iawn o allu cefnogi’r Brifysgol yn y modd hwn,” meddai wrth lansio’r gronfa.

“Mewn byd sy’n newid yn gyflym mae’n bwysig bod y Brifysgol a’i myfyrwyr yn cynnal eu cysylltiad ar draws yr Undeb Ewropeaidd ac Ardal Economaidd Ewrop.

“Fy ngobaith yw y bydd y gronfa newydd hon yn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr Aberystwyth o bob cefndir deithio a phrofi ieithoedd a diwylliannau newydd.

Ysbrydoli

Yn ôl William Parker mae “fformat coffi espresso” y gronfa yn mynd i olygu cyfleoedd sy’n cynnig “ysgogiad byr a phwerus”.

“Fy ngobaith yw y bydd y gronfa newydd hon yn ysbrydoli myfyrwyr i ymweld â llefydd newydd, cwrdd â phobl newydd a sefydlu rhwydweithiau newydd at ddibenion astudio, gwaith a chymdeithasol.

“Yn fy mhrofiad i, mae cyfleoedd o’r fath yn golygu eich bod wedi eich paratoi’n well ar gyfer bywyd ar ôl prifysgol.

“Yn ogystal, rwy’n mawr obeithio y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli gan fy esiampl i i gyfrannu at y Brifysgol fel y cefais i gan haelioni blaenorol cyd-raddedigion.”

‘Hynod ddiolchgar’

Carys Wilson, myfyriwr MA Celfyddyd Gain, yw’r gyntaf i dderbyn cefnogaeth y Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd newydd.

Mae hi newydd gwblhau cwrs celf wythnos o hyd yn Sardinia, yr Eidal.

“Mae’r cwrs hwn wedi bod fel bwyd ymennydd,” meddai.

“Mae wedi cyflymu’r broses o ddysgu’n fawr iawn, ac wedi fy ngalluogi i symud ymlaen yn gynt o lawer a gyda mwy o hyder yn fy ngwaith fy hun wrth i mi symud tuag at fy sioeau MA y flwyddyn nesaf.

“Heb y Gronfa Cyfleoedd Ewropeaidd, nid oes unrhyw ffordd y byddwn i wedi gallu mynychu’r cwrs hwn, talu am lety na’r costau teithio, ac roedd y broses ymgeisio yn hawdd.

“Rwy’n ei argymell yn llwyr i fyfyrwyr eraill ac yn hynod ddiolchgar i Mr William Parker am wneud hyn i gyd yn bosibl.”