Gallai gwyntoedd cryfion achosi perygl i fywyd gyda disgwyl tywydd mawr dros y penwythnos.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer gwyntoedd cryfion ar draws Cymru rhwng naw y bore a munud i hanner nos heddiw, dydd Gwener.

Daw hyn wrth i Storm Arwen daro Cymru, ac mae posib y bydd cyflenwadau trydan a thrafnidiaeth yn cael eu heffeithio gyda rhai ffyrdd yn debygol o gau.

Mae rhybudd tywydd melyn eisoes wedi ei gyhoeddi am “dywydd gwyntog iawn” ledled Cymru a’r rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig ar gyfer dydd Sadwrn (27 Tachwedd).

Bydd yn dod i rym am 12yb a bydd yn para am y rhan fwyaf o’r dydd tan 6yh.

Mae’n debyg y bydd gwyntoedd hyd at 80 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd arfordirol yng Nghymru, ac mae risg o “anafiadau a pheryg i fywydau o falurion yn hedfan.”

Bydd gorllewin Cymru (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro), Powys, a gogledd Cymru (Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Ynys Môn a Wrecsam) i gyd yn cael eu heffeithio gan y rhybudd.