Mae cabinet Cyngor Sir Conwy wedi pleidleisio i wneud tro pedol, gan gefnu ar benderfyniad blaenorol i godi premiwm treth y cyngor o 50% ar berchnogion ail gartrefi.
Yn hytrach, bydd perchnogion ail gartrefi yn parhau i dalu premiwm o 25% o fis Ebrill 2022, fel ag y maen nhw wedi’i wneud ers tair blynedd.
Bydd perchnogion tai sy’n wag am gyfnodau hir yn gorfod talu premiwm o 50% o fis Ebrill ymlaen.
Fe wnaeth y cabinet bleidleisio o blaid cadw’r opsiwn i gynyddu’r premiwm i 50% ar gyfer ail gartrefi o 1 Ebrill 2023, pe baen nhw’n dymuno gwneud hynny.
Er bod cynghorau’n gallu gosod premiwm treth y cyngor ar 100% – fel sydd wedi digwydd yng Ngwynedd – roedd cynghorwyr yn poeni y gallai Conwy, sy’n brin o arian, golli arian pe bai perchnogion ail gartrefi yn penderfynu newid eu tai yn gartrefi gwyliau.
Mae cynghorau’n gallu gwneud elw o’r dreth y cyngor, ond mae cyfradd fawr o gyfraddau busnes – fel y rhai sy’n cael eu talu gan berchnogion tai gwyliau – yn cael eu talu i’r llywodraeth.
“Ennyn teimladau cryf”
Dywedodd aelod y Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Brian Cossey, ei fod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn newid y ddeddfwriaeth, gan wneud bywyd yn haws i gynghorau fynd i’r afael â pherchnogion yn newid eiddo yn dai gwyliau.
“Mae’n bwnc sy’n ennyn teimladau cryf, ac ymysg y 59 cynghorydd, dw i’n amau bod gennym ni sbectrwm lawn o farn ar y mater penodol hwn,” meddai.
“Erbyn yr amser hyn y flwyddyn nesaf, dw i wir yn gobeithio y bydd gennym ni ganllawiau newydd, rheolau newydd, ac na fydd rhaid i ni boeni am hyn oherwydd y bydd hi’n iwtopia yn y farchnad ail gartrefi a thai gwag.”
Wrth siarad am yr opsiwn i gynyddu’r premiwm y flwyddyn nesaf, ychwanegodd y Cynghorydd Cossey: “Mae’r opsiwn yn caniatáu i ni, o fewn y grŵp gweithiol, gynnal adolygiad pellach o fewn deuddeg mis.
“Dyw hynny ddim yn golygu y byddwn ni’n cynyddu’r lefel i 50% neu 75% neu 100% neu ba bynnag ganran yn 2023.
“Ond mae’n rhoi’r cyfle i’r grŵp gweithiol fynd i’r afael â’r sefyllfa unwaith eto’r adeg hon flwyddyn nesaf.
“Pe na bai gennym ni lefel sy’n dangos [bod angen gweithredu], yna ni fyddem ni’n cael caniatâd i wneud unrhyw benderfyniad ar gynyddu’r premiwm.”