Mae disgwyl i Gynghorwyr Conwy benderfynu ar y lefel o Bremiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor ar gyfer 2022/23.

Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud mewn cyfarfodydd dros yr wythnosau nesaf.

Bwriad y premiwm ydi annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy mewn cymunedau lleol.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal yn ystod yr haf, gyda’r cyngor yn gwahodd perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor i roi eu barn ar beth ddylai’r premiwm fod.

Hefyd gwahoddwyd pobl i roi eu barn ar effaith y premiwm ar dwristiaeth, y Gymraeg a thai fforddiadwy, gyda dros 900 o ymatebion.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad ac ystod o wybodaeth eraill wedi cael eu hystyried gan y Gweithgor Tai Fforddiadwy.

Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau ar 15 Tachwedd, a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet heddiw (23 Tachwedd) a’r Cyngor ar 9 Rhagfyr.

Argyfwng tai

Mae sefyllfa ail gartrefi Cymru yn bwnc llosg ac mae cryn bryderon eu bod yn cael effaith ar brisiau tai mewn cymunedau Cymraeg.

Mae hynny yn ei dro, meddai ymgyrchwyr, yn arwain at Gymry ifanc yn gorfod gadael cadarnleoedd yr iaith, ac felly at ddirywiad y Gymraeg.

Y llynedd cododd cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru 8.2%, y cynnydd uchaf mewn 15 mlynedd.

Y pris cyfartalog erbyn hyn yw £209,723, y tro cyntaf erioed i’r pris cyfartalog fod dros £200,000.

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi penderfynu cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn y sir i 100%.

Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn hefyd wedi argymell codi’r premiwm treth gyngor ar berchnogion ail gartrefi, tra bod cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio i gynyddu trethi ar ail gartrefi.

“Mater cymhleth”

Dywedodd y Cynghorydd Brian Cossey, Aelod Cabinet Cyllid, Refeniw a Budd-daliadau, “Mae hwn yn fater cymhleth, ac mae ymchwil a’r gwaith sy’n cael ei wneud i ystyried yr effaith caiff premiymau Treth y Cyngor ychwanegol ar yr economi a’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n hystyriaethau.

“Mae hefyd yn bwysig nodi’r cynnig bod yr arian a godir yn cefnogi’r pwysau yng nghyllideb Gwasanaethau Tai’r Cyngor.”

Cynyddu premiwm treth ar ail gartrefi o 50% i 100% yng Ngwynedd

O’r wyth awdurdod lleol sy’n codi’r premiwm ar ail gartrefi nid oedd yr un ohonynt cyn hyn yn codi mwy na 50%

Argymell codi premiwm treth y cyngor ar ail gartefi yn Ynys Môn

Bydd y mater nawr yn cael ei drafod gan y Cyngor llawn yn ystod y misoedd nesaf

Sir Benfro yn dyblu’r dreth ar ail gartrefi

Cynghorwyr Sir Benfro yn dilyn esiampl cynghorwyr Gwynedd ac Abertawe