Fe wnaeth nifer y marwolaethau wythnosol yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru ostwng tua 23.5% yn yr wythnos hyd at 12 Tachwedd.

Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 75 o bobol yn yr wythnos honno, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hynny’n cymharu â 98 marwolaeth yn ystod yr wythnos flaenorol, pan fu cynnydd o 20.9% ac roedd nifer y marwolaethau wythnosol ar eu huchaf ers mis Mawrth 2021.

O gymharu, mae nifer y marwolaethau’n ymwneud â Covid-19 yn Lloegr dal i gynyddu, gyda chynnydd o 5.7% rhwng yr wythnos yn gorffen ar 5 Tachwedd a’r wythnos yn gorffen ar 12 Tachwedd.

Cafodd cyfanswm o 725 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 12 Tachwedd, sydd 16% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd (100 marwolaeth yn fwy).

Golyga hyn bod tua 10.3% o’r marwolaethau gafodd eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos honno’n ymwneud â Covid-19.

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 61,432 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru rhwng 13 Mawrth 2020 a 12 Tachwedd 2021, a bod niferoedd y marwolaethau 6,396 yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Yn yr wythnos hyd at 12 Tachwedd, roedd nifer y marwolaethau’n uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd mewn cartrefi preifat yng Nghymru a Lloegr (38% yn uwch), mewn ysbytai (13.8% yn uwch), ac mewn cartrefi gofal (6.4%).

Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth tua 101 o breswylwyr cartrefi gofal Cymru a Lloegr yn yr wythnos honno, sy’n ostyngiad o 111 yn yr wythnos flaenorol.

Nifer marwolaethau Covid-19 ar y lefel uchaf yng Nghymru ers dechrau mis Mawrth

Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 98 o bobol yn ystod yr wythnos yn gorffen ar 5 Tachwedd 2021