Mae nifer y marwolaethau wythnosol sy’n ymwneud â Covid-19 ar eu huchaf yng Nghymru ers dechrau mis Mawrth, meddai’r ystadegau diweddaraf.
Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 98 o bobol yn ystod yr wythnos yn gorffen ar 5 Tachwedd 2021, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd hyn yn gynnydd o’r 81 fu yn yr wythnos flaenorol, cynnydd o 20.9%.
Dyma’r nifer uchaf o farwolaethau wythnosol yng Nghymru ers yr wythnos yn gorffen 5 Mawrth 2021, pan oedd Cymru dal mewn cyfnod clo a phan fu 103 o farwolaethau’n ymwneud â Covid.
Roedd y marwolaethau Covid-19 wedi bod yn gyson yng Nghymru ers pythefnos, ond rhwng Cymru a Lloegr mae cynnydd wedi bod dros y pedair wythnos ddiwethaf.
Mae’r ystadegau ar gyfer y ddwy wlad yn dangos y nifer uchaf o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 ers yr wythnos yn gorffen 12 Mawrth.
Er hynny, mae nifer llawer is o farwolaethau nag y bu yn ystod yr ail don dros y gaeaf diwethaf.
Bu 467 o farwolaethau yn ymwneud â Covid yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 15 Ionawr 2021, y lefel uchaf drwy gydol y pandemig.
Cafodd 797 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos yn gorffen 5 Tachwedd, 29.4% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd (181 marwolaeth yn fwy).
O’r holl farwolaethau fu yng Nghymru yn yr wythnos honno, roedd 12.3% ohonyn nhw yn crybwyll Covid-19.