Bydd plant a phobol ifanc o gartrefi ag incymau isel yn cael cynnig aelodaeth blwyddyn i’r Urdd am £1, yn hytrach na £10.

Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Plant (dydd Sadwrn, Tachwedd 20), mae’r Urdd wedi datgan y cynllun aelodaeth newydd fel ymrwymiad pellach i gefnogi plant a phobol ifanc.

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod un ym mhob pum disgybl yng Nghymru yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim, ac mae’r Urdd am “chwarae ei ran” drwy sicrhau fod gwasanaethau’r mudiad ar gynnig i blant a phobol ifanc o bob cefndir cymdeithasol.

Yn ôl Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, mae’r mudiad yn chwilio am ddulliau arloesol o sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael manteisio ar y cyfleoedd.

Bydd yr aelodaeth £1 ar gael i blant sy’n derbyn cefnogaeth drwy gynllun prydau ysgol am ddim.

‘Cefnogaeth i’n cyd-ddyn’

“Roedd ystadegau yn dangos bod tlodi plant yng Nghymru ar gynnydd cyn y pandemig, ond mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar lesiant a gweithgarwch corfforol plant, yn enwedig rheiny o deuluoedd incwm isel,” meddai Siân Lewis.

“Fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol rydym yn gyson chwilio am ddulliau arloesol i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle.

“Mae cynnig cefnogaeth i’n cyd-ddyn yn greiddiol i’n gwaith, ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu effaith y pandemig ar ein hieuenctid ynghyd â’u teuluoedd.”

‘Fforddiadwy a hygyrch’

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi croesawu’r cynllun hefyd, gan ddweud bod ymrwymiad yr Urdd i gefnogi plant o bob cefndir yn “glir yn eu gwaith”.

“Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd i filoedd o blant a phobol ifanc yng Nghymru i fwynhau eu hawliau i gymdeithasu, i ymlacio, i chwarae, ac i ddatblygu eu diddordebau a thalentau,” meddai Sally Holland.

“Mae ymrwymiad yr Urdd i gefnogi plant o bob cefndir i fwynhau’r hawliau yma yn glir yn eu gwaith. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r ymrwymiad yma wedi cynnwys cynlluniau sbesiffig i blant sydd mewn cyswllt gyda gwasanaethau cymdeithasol, a chefnogaeth arbennig i ffoaduriaid.

“Mae’r cynnig newydd yn ychwanegu at yr holl waith yma trwy wneud yn siŵr bod eu gweithgareddau yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb.”

‘Croesawu gan staff a rhieni’

Dywed Iwan Ellis, Pennaeth Ysgol Bro Eirwg yng Nghaerdydd, hefyd fod y cyhoeddiad i’w groesawu.

“Fel ysgol ble mae bron i 30% o’n disgyblion yn gymwys i dderbyn cinio am ddim – a’r nifer yma’n parhau i godi – mae’r cynnig aelodaeth newydd yma gan yr Urdd wedi’i groesawu gan staff a rhieni fel ei gilydd,” meddai.

“Mae Covid yn amlwg wedi effeithio yn ariannol ar bawb, ond mi fydd y cynnig yma’n galluogi fod mwy o rieni yn medru ymaelodi eu plant â’r Urdd.”

Mae’r cynllun ‘Cyfle i Bawb – Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd’ wedi galluogi i gannoedd o blant a phobol ifanc na fyddai’n cael cyfle i fynd ar wyliau fel arall i fwynhau Gwersyll Haf yng Nglan-llyn, Caerdydd a Llangrannog.

Bydd y gronfa honno’n ailagor ar gyfer ceisiadau gan rieni neu ysgolion ar ran plant ym mis Ionawr.