Mae menter wedi ei lansio yng Nghasnewydd er mwyn dysgu Cymraeg i geiswyr lloches a ffoaduriaid sydd wedi ymsefydlu yn y ddinas.
Mae’r myfyrwyr – pob un ohonyn nhw’n ferched – yn dod o wahanol wledydd gan gynnwys Tsieina, Swdan ac Eritrea.
Caiff y cynllun ei redeg gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae’n cael ei gynnig i’r myfyrwyr am ddim dan arweiniad y tiwtor, Jacqui Spiller.
Roedd y cwrs yn arfer cael ei gynnal wyneb-yn-wyneb cyn y pandemig, ond mae’r dosbarthiadau bellach yn rhai rhithiol.
Mae nifer o’r myfyrwyr eisoes yn siarad dwy iaith neu fwy, ac mae eu rhieni hefyd yn manteisio ar y gwersi drwy eu plant.
Codi ymwybyddiaeth am Gymru
Mae elusen y Groes Goch wedi sicrhau bod gan y chwe myfyriwr liniadur a chysylltiad Wi-Fi, fel eu bod nhw’n gallu cymryd rhan yn y gwersi ar-lein.
“Pan fydd y Swyddfa Gartref yn lletya pobl yma, ychydig iawn o wybodaeth a roddir am Gymru fel gwlad wahanol,” meddai Theresa Mgadzah Jones, Cydlynydd Cefnogi Ffoaduriaid a Mudo’r elusen.
“Mae pobol yn meddwl eu bod yn Lloegr ac nid ydynt yn ymwybodol bod diwylliant ac iaith wahanol yma.
“Yna, pan maen nhw wedi bod yma am sbel, maen nhw’n dechrau sylwi ar yr arwyddion ffordd a’r arwyddion cyhoeddus yn Gymraeg, ac yn sylweddoli fod iaith arall yma.
“Maent hefyd yn clywed eu plant yn dod adref o’r ysgol yn dweud ymadroddion yn Gymraeg neu’n canu hwiangerddi yn Gymraeg.
“Felly fe wnaethon ni ddechrau’r gwersi gyda Dysgu Cymraeg Gwent oherwydd bod y rhieni’n chwilfrydig ac eisiau gwybod mwy am yr iaith.”
‘Agor drysau’
“Mae’r menywod eisiau dysgu Cymraeg gan eu bod yn teimlo y dylen nhw ddysgu iaith y wlad maen nhw yn symud i fyw iddi,” meddai wedyn.
“Maent eisiau gallu helpu eu plant gyda’u gwaith cartref, ond yn bwysicach na dim, maent yn sylweddoli gwerth bod yn amlieithog.
“Maent yn gwybod, os byddan nhw neu eu plant yn siarad Cymraeg, yn ogystal â Saesneg, y bydd yn agor drysau iddynt pan fyddan nhw yn chwilio am swyddi.”
Profiad Theresa Mgadzah Jones
Daw Theresa Mgadzah Jones o Zimbabwe yn wreiddiol, ond symudodd i Lundain pan oedd yn 12 oed gan fod y rhyfel dros annibyniaeth yn torri allan.
Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr, sy’n siaradwr Cymraeg, a’u tri o blant.
Mae hi’n teimlo nad oes llawer o unigolion BAME fel hi yn mynd ati i ddysgu Cymraeg.
“Mae fy mhlant yn hil gymysg ac wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg,” meddai.
“Dw i wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg, ond fel menyw ddu, dw i’n hunanymwybodol iawn pan fydda i’n mynd i ddosbarthiadau Cymraeg gan nad ydw i’n gweld llawer o bobl dduon yn dysgu Cymraeg.
“Rwyf wedi teimlo erioed ein bod dan anfantais. Nid dim ond y ffoaduriaid sydd ddim yn ymwybodol o’r iaith ond hefyd y gymuned BAME yn ehangach, sydd wedi bod yma ers amser maith.
“Mae’n ymddangos eu bod dan yr argraff mai ‘iaith i bobol wyn’ yw’r Gymraeg, sy’n sicr ddim yn wir. Mae hyn yn rhywbeth sydd angen newid ac yn rheswm arall pam ein bod ni’n cyflwyno’r iaith i’r menywod rydyn ni’n eu cefnogi yma yng Nghasnewydd.”