Bydd gweithwyr Stagecoach yng Ngwent yn cael eu talu £10.50 yr awr, ar ôl i aelodau undeb lafur streicio am 17 diwrnod.

Fe wnaeth tua 200 o Uno’r Undeb sy’n gweithio yn y depos sydd gan y cwmni bysus yng Nghwmbrân, Brynmawr a’r Coed Duon streicio am dair wythnos dros “dâl isel”.

Roedden nhw hefyd am ddechrau streic newydd am ddeufis fory (dydd Mercher, Tachwedd 17), gan fod Stagecoach wedi gwrthod eu galwadau.

Mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, megis gorllewin yr Alban, roedd Stagecoach wedi cynnig codiadau cyflog i’w gweithwyr, ac roedd Uno’r Undeb yn dweud na fydden nhw’n derbyn bod gweithwyr de Cymru’n derbyn llai o gyflog na’u cydweithwyr.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Uno’r Undeb Cymru y bydd y codiad cyflog o £9.50 yr awr i £10.50 yn cael ei ôl-ddyddio i fis Ebrill eleni, ac y bydd eu hawliau ac amodau’n cael eu gwarchod. Fydd dim toriadau i dâl salwch y gweithwyr chwaith.

“Rydyn ni’n eithriadol o falch o’n haelodau a’r fuddugoliaeth anferth hon,” meddai Uno’r Undeb Cymru ar Twitter.

“Rhaid i bob gyrrwr bws uno nawr ar gyfer y dyfodol.”

‘Buddugoliaeth eithriadol’

Dywed Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol Uno’r Undeb, fod hon yn “fuddugoliaeth eithriadol” i’r aelodau yn Stagecoach yn y de.

“Maen nhw wedi bod yn gwbl unedig drwy gydol y streic,” meddai.

“O ganlyniad, maen nhw wedi llwyddo i gael cytundeb pwysig, i’r gweithwyr hyn, o £10.50 yr awr.

“Mae ein hundeb yn canolbwyntio’n llwyr ar gynyddu tâl a gwella amodau yn y sector, ac mae’r cytundeb hwn yn ddatganiad pwysig yn ein bwriad i gyflwyno hyn.

“Mae rhaid i bob gweithredwr trafnidiaeth yng Nghymru gydnabod na fyddwn ni’n derbyn tâl tlodi i’n haelodau.”

‘Ysbrydoledig’

Ychwanegodd Alan McCarthy, Swyddog Rhanbarthol Uno’r Undeb, fod yr aelodau wedi bod yn “ysbrydoledig” yn ystod y ddadl.

“Nid yn unig y maen nhw wedi llwyddo i gael £10.50 yr awr gydag ôl-daliad, maen nhw wedi llwyddo i wthio’n ôl yn erbyn toriadau i dâl salwch ar gyfer rhai o’r staff sy’n gweithio yno ers y cyfnod hiraf,” meddai.

“Mae’r ddadl wedi tynnu sylw at y pla o dâl isel yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru.

“Gyda dadreoleiddio’n dod i ben yng Nghymru rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r cyfle i gyflwyno system o fargeinio sectoraidd. Trwy hyn, gallwn roi diwedd ar y ras barhaus i’r gwaelod sydd wedi gyrru cyfraddau cyflog i lawr.”

Arriva

Yn y cyfamser, mae aelodau Uno’r Undeb sy’n gweithio i gwmni Arriva Cymru yn y gogledd wedi dechrau streic bum wythnos hefyd, ar ôl i Arriva “fethu â gwneud gwelliannau arwyddocaol i’w cynnig cyflog”.

Mae gweithwyr yng Nghymru yn cael cynnig codiad cyflog o 29c yr awr, tra bod gweithwyr yng Ngogledd Orllewin Lloegr yn cael cynnig 39c. Mae gwahaniaeth o £1.81 yn y tâl fesul awr rhwng y ddwy ardal ar hyn o bryd.

Fe fydd 400 o aelodau Uno’r Undeb sy’n gweithio yn Amlwch, Bangor, Penarlâg, Llandudno, y Rhyl a Wrecsam yn streicio’n barhaus nes Rhagfyr 19, a bydd gwasanaethau bysus yn cael eu heffeithio dros y cyfnod hwn, meddai’r undeb.

“Mae’r ddadl hon wedi bod yn enghraifft ddisglair o bwrpas Uno’r Undeb, cwffio dros Swyddi, Tâl ac Amodau yn y gweithle,” ychwanegodd Alan McCarthy am y fuddugoliaeth yn y de.

“Bydd ein haelodau yma yn cofio’r fuddugoliaeth hon am amser hir, maen nhw’n benderfynol o barhau’n unedig wrth fynd ymlaen at drafodaethau ynghylch tâl yn y dyfodol.”

‘Gofynion rhesymol’

Wrth ymateb, dywed Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, fod hyn yn newyddion “arbennig”.

“Doedd y gyrwyr ond yn gofyn am godiad cyflog cymedrol. Cawson nhw eu gorfodi i streicio yn sgil rheolaeth ystyfnig y cwmni a oedd yn ddigon hapus i dalu’r hyn oedd gyrwyr yng Nghymru’n ofyn amdano, a mwy, dros y ffin i’w gyrwyr ym Mryste,” meddai.

“Dw i’n gobeithio bod gwersi’n cael eu dysgu gan uwch-reolwyr yn Stagecoach a’u bod nhw’n dechrau adfer peth o’r difrod y maen nhw wedi’i wneud i’r berthynas gyda’u gweithlu.”

Ychwanegodd Delyth Jewell, sydd hefyd yn cynrychioli Plaid Cymru yn Nwyrain De Cymru yn y Senedd, ei bod hi “wrth ei bodd” bod y gyrwyr wedi cael eu dymuniad.

“Roedd eu gofynion yn rhesymol er gwaethaf yr hyn honnodd rheolwyr Stagecoach,” meddai.

“Cafodd nifer o etholwyr – yn enwedig rhai heb eu trafnidiaeth eu hunain – eu hamharu yn ystod y streicio dros yr 17 diwrnod diwethaf felly mae’n rhyddhad drostyn nhw, yn ogystal â’r gyrwyr bysus, fod y ddadl hon wedi dod i ben o’r diwedd.

“Mae hi’n fuddugoliaeth wirioneddol i synnwyr cyffredin, pŵer pobol, a chydsafiad undebau llafur.”

Gweithwyr Stagecoach yng Ngwent am streicio am ddeufis dros “dâl isel”

“Ni fyddwn ni’n derbyn bod gweithwyr yn ne Cymru yn derbyn llai o gyflog na’u cydweithwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig”