Bydd gweithwyr Stagecoach yn streicio am ddeufis wedi i drafodaethau rhwng y cwmni bysiau a’r undeb sy’n cynrychioli’r gweithwyr fethu â dod i gytundeb dros gyflogau.

Mae Uno’r Undeb yn galw ar Stagecoach i dalu £10.50 i’w gweithwyr ym Mrynmawr, Cwmbrân a’r Coed Duon.

Mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, megis gorllewin yr Alban, mae Stagecoach wedi cynnig codiadau cyflog i’w gweithwyr, ac mae Uno’r Undeb yn dweud na fydden nhw’n derbyn bod gweithwyr de Cymru’n derbyn llai o gyflog na’u cydweithwyr.

Cafodd gofynion yr undeb i gynyddu’r cyflog i £10.50 eu gwrthod gan reolwyr Stagecoach yn ystod cyfarfod ddoe (2 Tachwedd).

Mae’r gweithwyr yn y depos yng Ngwent eisoes wedi cynnal un streic ddeng niwrnod, ond bydd y streic nesaf yn un barhaus rhwng 17 Tachwedd 2021 a 10 Ionawr 2022.

“Penderfynol”

Dywedodd Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol Uno’r Undeb, fod yr undeb yn “benderfynol o frwydro dros gytundeb gwell i’n haelodau yn Stagecoach”.

“Ni fyddwn ni’n derbyn bod gweithwyr yn ne Cymru yn derbyn llai o gyflog na’u cydweithwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai Sharon Graham.

“Bydd y gweithredu nawr yn cynyddu, a bydd Uno’r Undeb yn cefnogi ein haelodau gyda’u holl gryfder ac adnoddau.”

“Rhagrith dybryd”

Dywedodd Alan McCarthy, Swyddog Rhanbarthol Uno’r Undeb, eu bod nhw’n “hynod siomedig” gydag agwedd rheolwyr Stagecoach yn y trafodaethau ACAS ddoe.

“Cafodd ein cynigion rhesymol i ddod â’r ddadl hon i ben eu gwrthod heb iddyn nhw gymryd amser i feddwl, gan gyflogwr sy’n ymddangos yn benderfynol o fod eisiau cynnal tâl isel,” meddai Alan McCarthy.

“Mae gyrwyr wedi gweld codiad cyflog o lai na 75c yr awr rhwng 2016 a 2020, tra bod tâl blynyddol Cyfarwyddwyr wedi codi o £93,000 i £180,000.

“O ystyried y rhagrith dybryd hwn, mae ein gweithwyr yn fwy penderfynol nag erioed ac ni fydden nhw’n camu’n ôl yn y ddadl hon.”

Gyrwyr bysus Stagecoach yn bwriadu streicio dros “dâl annheg”

“Stagecoach wedi elwa drwy gyllid cyhoeddus, ond ni wnaiff dalu cyflog addas i weithwyr sydd wedi gwasanaethu drwy’r pandemig”