Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud adferiad canol trefi gwledig yn flaenoriaeth wrth ddod allan o bandemig Covid-19.

Yn ôl adroddiad diweddar gan Archwiliad Cymru mae’r cyfuniad rhwng y pandemig a Brexit wedi cael effaith andwyol ar drefi gwledig.

Wrth siarad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth (Tachwedd 2) cyfeiriodd Cefin Campbell, llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Gwledig at ddirywiad diweddar lawer o drefi a chymunedau gwledig a’r goblygiadau hyn ar genedlaethau’r dyfodol.

“Beth rŷn ni’n gweld yw darlun o ddirywiad yn ein prif drefi marchnad ni ar draws y rhanbarth: siopau, banciau, tafarndai a swyddfeydd post yn cau,” meddai.

“Mae canol ein trefi yn wag, footfall yn mynd yn llai; gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cwtogi, a nifer o fannau’n cael trafferth recriwtio meddygon teulu a deintyddion.”

Pesimistaidd

Mae’n debyg bod un ymhob saith o siopau ar strydoedd Cymru’n wag, gyda nifer o ardaloedd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru fel Abergwaun ac Aberarth heb fanc.

Yng Nghymru, rhwng 2012 a 2020, gostyngodd nifer y canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu o 695 i 495.

Dywedodd hefyd bod pobl ifanc hefyd yn fwy pesimistaidd am gyfleoedd sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn.

Mewn Adroddiad gan Ymchwil Ieuenctid Gwledig Cymru dywed 60% o bobl ifanc Cymru eu bod yn ystyried symud i dref neu ddinas lle mae cyfleoedd cyflogaeth yn well.

Tynnodd yr aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru sylw hefyd at y dirywiad yn y ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy mewn llawer o drefi gwledig – gan ei ddisgrifio fel “mwy o loteri na gwasanaeth”.

Llywodraeth Cymru

Ymatebodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford gan amddiffyn record y llywodraeth a mynnu fod eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu.

“Rŷn ni yn rhoi blaenoriaeth i helpu trefi yng nghefn gwlad i ddod dros yr effaith o coronafeirws ac i wynebu’r heriau sydd i ddod.

“Rŷn ni’n defnyddio nifer o’r pwerau sydd gyda ni yn barod”.