Pleidleisiodd aelodau seneddol i beidio gwahardd Ceidwadwr am dorri rheolau lobïo honedig – ond o blaid diwygio system safonau Tŷ’r Cyffredin.

Roedd y cyn-weinidog Owen Paterson, AS Gogledd Swydd Shropshire, yn wynebu cal ei wahardd am 30 diwrnod ar ôl i bwyllgor safonau trawsbleidiol y Senedd ganfod ei fod wedi camddefnyddio ei swydd er budd dau gwmni yr oedd yn gweithio iddyn nhw.

Ond dywedodd ei gyd-aelodau fod y system yn annheg gyda’r Aelod Ceidwadol, Andrea Leadsom yn cynnig gwelliant yn galw am adolygiad o’r achos.

Canlyniad y bleidlais oedd 250 i 232, mwyafrif o 18, i gymeradwyo’r gwelliant.

Gorchmynodd y llywodraeth i’r Aelodau Seneddol Ceidwadol i bleidleisio o blaid cynnig Andrea Leadsom, ond gwrthwynebodd y rhan fwyaf o’r gwrthbleidiau gan gynnwys Llafur a’r SNP.

Lobïo

Fis diwethaf, fe ddyfarnodd Pwyllgor Safonau Trawsbleidiol y Senedd fod Mr Paterson wedi lobïo gweinidogion y llywodraeth ar gyfer dau gwmni – Randox a Lynn’s Country Foods – oedd wedi talu rhagor na £100,000 y flwyddyn iddo.

Mewn adroddiad argymhellodd y Comisiynydd Safonau Seneddol, Kathryn Stone, y dylid gwaharddiad Mr Paterson o’r Senedd am 30 diwrnod.

Honnodd Mr Paterson fod yr ymchwiliad wedi’i gynnal yn annheg a’i fod wedi chwarae “rôl bwysig” yn hunanladdiad ei wraig, Rose, y llynedd.

Cafodd Aelodau Seneddol Ceidwadol eu gorchymyn i gefnogi’r cais wedi i Boris Johnson holi os oedd yr ymchwiliad i Mr Paterson yn deg, wedi i’r blaid gael ei chyhuddo o fod yn dwyllodrus.

Yn dilyn canlyniad y bleidlais clywyd galwadau o “cywilydd” gan feinciau’r wrthblaid.

Cyhuddodd y Dirprwy Arweinydd Llafur Angela Rayner y Torïaid o fod yn “Bydredig i’r craidd” gan ddisgrifio’r canlyniad fel “gwarth llwyr”.

Fe ddywedodd Angela Rayner ar ei chyfrif Twitter: “Heddiw pleidleisiodd y Torïaid i roi golau gwyrdd i lygredd.

“Ni fydd Llafur yn cymryd unrhyw ran yn y broses ffug hon nac unrhyw bwyllgor llwgr.

“Mae’r Prif Weinidog, Gweinidogion ac ASau Ceidwadol wedi dwyn gwarth ar ein democratiaeth.”

Fe rybuddiodd cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Chris Bryant, AS Llafur Rhondda pe bai gwelliant Andrea Leadsom yn ennill yna “byddai’r cyhoedd yn meddwl mai ni

ydi’r Senedd sy’n trwyddedu arian parod ar gyfer cwestiynau”.

Dywedodd Daniel Bruce, prif weithredwr y grŵp gwrth-llygredd Transparency International UK, y bydd y gwelliant yn gosod “cynsail ofnadwy” a fydd “ond yn atgyfnerthu’r canfyddiad bod gwleidyddion “yn chwarae un set o reolau iddyn nhw a set arall o reolau i bawb arall.”