Bydd Cymru’n derbyn £46 miliwn fel rhan o raglen y Deyrnas Unedig fydd yn cymryd lle grantiau’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd Cymru’n arfer derbyn tua £375 miliwn bob blwyddyn, a oedd wedi’i anelu tuag at helpu ardaloedd tlotaf y wlad, gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd Llywodraeth San Steffan gymryd lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, ond ni fydd yn dod i rym nes Ebrill 2022.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynllun peilot, y Gronfa Adfywio Cymunedau, heddiw (3 Tachwedd).

Bwriad y cynllun meddai Michael Gove, Gweinidog Codi’r Gwastad San Steffan, wrth ei gyhoeddi yw “uno a chydraddoli’r Deyrnas Unedig i gyd”.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn gwneud y gwrthwyneb, a bod pobol Cymru yn cael eu “camarwain” Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Prosiectau

Bydd 160 o brosiectau yng Nghymru, 477 dros y Deyrnas Unedig, yn derbyn arian o dan y Gronfa Adfywio Cymunedau, sydd â’r bwriad o fuddsoddi mewn sgiliau, addysg, busnesau lleol a chyflogaeth.

Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru, heb law Sir y Fflint, yn derbyn arian, ac mae rhai o’r prosiectau yn cynnwys 12 prosiect gwerth £2,830,546 yng Ngheredigion.

Fe fydd yr arian hwnnw’n mynd tuag at brosiectau megis Caniatáu Adferiad Trefi Ceredigion, Canolfan Tir Glas yn Llanbedr Pont Steffan, rhaglen fusnes BioAccelerate, a phrosiect Lle i Weithio.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn: “Mae’n bleser gen i groesawu’r newyddion gwych hwn a ddaeth yn sgil y cyhoeddiad heddiw ac yn edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a gweithio gyda’n partneriaid i wireddu’r prosiectau hyn er budd ein cymunedau.”

Mae prosiectau eraill yn cynnwys ariannu gwelliannau ar lwybrau yn Ninas Mawddwy er mwyn eu gwneud nhw’n fwy hygyrch i bobol ag anableddau, gwarchod rhwydweithiau cymunedol, a sicrhau bod yr awyr agored ar gael i bawb.

Bydd £1 miliwn yn cael ei roi tuag at sefydlu Rhaglen Hyfforddiant ar gyfer y Diwydiant Creadigol, a fydd yn cynnig ffordd gydlynol o weithio, cefnogi hyfforddiant, a chreu cyfleoedd addysgu mewn lleoliadau ym Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Fe fydd arian yn cael ei roi tuag at gefnogi pobol ddi-waith a difreintiedig yn Sir Gaerfyrddin i ddechrau eu busnesau eu hunain drwy fuddsoddi mewn sgiliau entrepreneuraidd, digidol a chyflogadwyedd hefyd.

Bydd hefyd yn ariannu rhaglen i entrepreneuriaid benywaidd, gan greu rhwydwaith ar gyfer menywod mewn busnes yn y sir.

“Camarwain”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cynllun yn “anghydraddoli” yn hytrach na “chydraddoli”.

“Trwy gydol y ddadl ar Brexit, rhoddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig sicrwydd na fyddai Cymru’n colli ’dim un geiniog’ o gronfa buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd pe bai’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw yn dangos eu bod nhw’n rhoi llai o arian i Gymru gan dorri’r buddsoddiad yr oedd wedi ei addo.

“Yn lle bod Cymru’n derbyn o leiaf £375m yn flynyddol mewn arian newydd i fuddsoddi o fis Ionawr eleni, mae’n cadarnhau y bydd Cymru ond yn derbyn £46m. Dydy hynny ddim yn ‘gydraddoli’, mae’n anghydraddoli.

“Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd addo byddai’r pwerau datganoledig yn cael eu parchu.

“Mae Mesur y Farchnad Fewnol yn tanseilio datganoli democrataidd trwy atal penderfyniadau sydd am Gymru o gael eu gwneud yng Nghymru.

“Mae hyn yn enghraifft glir arall bod pobl Cymru’n cael eu camarwain gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.”

“Hwb i sgiliau”

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Ddiwylliant a Thwristiaeth, Tom Giffard AoS, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud bod y “gronfa newydd wych hon yn dangos pa mor ymrwymedig yw Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i helpu pobol Cymru i weithio a chydraddoli ein cymunedau”.

“Wrth i ni ddechrau gweithio i helpu ein heconomi adfer wedi’r pandemig, mae’n hanfodol ein bod ni’n rhoi hwb i sgiliau pobol er mwyn helpu nhw i gael eu cyflogi a chefnogi busnesau lleol,” meddai Tom Giffard.