Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi amddiffyn recriwtio pobol ifanc 16 oed i’r fyddin.

Daw eu sylwadau ôl ar awgrym gan Gomisiynydd Plant Cymru heddiw dylai’r Fyddin Brydeinig roi’r gorau i recriwtio pobl ifanc 16-18 oed.

Dywedodd Sally Holland wrth raglen Y Byd ar Bedwar fydd yn cael ei darlledu heno (nos Fercher) bod recriwtio pobl dan 18 yn fater o “hawliau dynol a hawliau plant”.

“I fi, mae’r dystiolaeth yn glir, mae ’na ormod o risgiau i bobol ifanc pan maen nhw’n ymuno a’r fyddin yn 16 oed neu 17 oed,” meddai.

“Maen nhw’n fwy tebygol i gael eu lladd yn anffodus yn eu gyrfa ac maen nhw’n fwy tebygol o gael problemau gydag iechyd meddwl ac iechyd corfforol.”

Daw sylwadau’r Comisiynydd yn dilyn ymchwil gan elusennau Forces Watch a Child Soldiers International, sy’n dweud bod milwyr a wnaeth ymuno â’r Fyddin yn 16 oed ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu lladd yn Affganistan na’r rhai wnaeth ymuno fel oedolion.

Y Deyrnas Unedig yw’r unig wledydd yn Ewrop ac o fewn NATO sy’n recriwtio pobl ifanc 16 oed.

Gyrfa

Ond yn ôl yr AoS Mark Isherwood, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Gyfiawnder mae ymuno â’r fyddin yn ffordd da i bobol ifanc ennill cyflogaeth.

“Er imi gredu bod sylwadau’r Comisiynydd yn rhai didwyll, mae ymuno â’r fyddin yn 16-17 oed yn cynnig manteision,” meddai.

“Dylid rhoi amrywiaeth o opsiynau gyrfa gredadwy i bobl ifanc 16 oed, sydd â’r potensial i wella eu bywydau, a’u helpu i gyfrannu at gymdeithas. Mae ymuno â’r fyddin yn un opsiwn o hyn, ac mae ymuno’n gynnar yn rhoi cychwyn da iddynt.

“Mae [Y Fyddin] yn dysgu disgyblaeth, parch a sefydlogrwydd i lawer yn ogystal â sgiliau amhrisiadwy ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

“Daw hyn law yn llaw â mesurau diogelu fel peidio â chael eu danfon i’r rheng flaen nes eu bod yn 18 oed, y modd o roi’r gorau iddi os nad ydynt yn teimlo bod y Fyddin ar eu cyfer, yr angen am ganiatâd rhieni, a chymorth iechyd meddwl cynhwysfawr.”

Dywedodd y Fyddin Brydeinig eu bod yn darparu cymorth a thriniaeth iechyd meddwl gynhwysfawr i’r rhai sy’n cael eu recriwtio yn 16 oed.

Bydd Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu am 8.25 heno ar S4C.