Fe wnaeth nifer teithwyr Maes Awyr Caerdydd ostwng i’r lefelau isaf ers y 1950au yn ystod y pandemig, yn ôl y prif weithredwr.

Dywedodd Spencer Birns wrth y Pwyllgor Cyfrifon a Gweinyddiaeth Cyhoeddus fod nifer y teithwyr yn y flwyddyn rhwng 2020-21 wedi gostwng o 1.6 miliwn i 48,000.

Fe welodd Caerdydd ostyngiad mwy na meysydd awyr eraill y DU, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi annog pobl i beidio â theithio dramor, meddai Mr Birns.

“Mae hyn yn ostyngiad o 98% a dyma’r ffigyrau isaf erioed i’r maes awyr weld ers y 1950au,” meddai.

Cafodd Maes Awyr Caerdydd ei brynu gan Lywodraeth Cymru yn 2013 am £52 miliwn.

Ond fis Mawrth fe ddaeth i’r amlwg y gallai’r maes awyr fod gwerth cyn-lleied â £15 miliwn o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Daeth y ffigwr yna i’r amlwg wythnos ar ôl i weinidogion roi grant o £42.6m i’r maes awyr.

Gostyngiad

Gofynnwyd i Mr Birns esbonio pam fod nifer teithwyr Caerdydd wedi gostwng yn fwy serth na meysydd awyr eraill.

“Peidiwch ag anghofio ein bod wedi bod mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae’r llywodraeth, ac yn gwbl briodol felly, wedi canolbwyntio cymaint ar iechyd y genedl.

“Ac mewn gwirionedd mae hynny wedi annog pobl i beidio â theithio dramor sydd wedi bod yn ffactor pwysig yn null Llywodraeth Cymru ar sut i reoli lledaeniad y feirws, ” meddai.

“Dyw e ddim yn rhy annhebyg i’r hyn rydych chi’n ei weld ar y ffigyrau rheilffyrdd, lle mae adferiad yn Lloegr wedi bod yn gynt nag y bu i Nghymru.”

Roedd disgwyl i’r maes awyr gymryd pum mlynedd i adfer yn llawn o’r pandemig ond mae Spencer Birns yn ffyddiog y bydd hynny’n digwydd yn gynt gyda mwy o hediadau wedi eu trefnu ar gyfer Gwanwyn 2022.

Ond fe rybuddiodd bod hynny’n dibynnu os byddwn allan o’r pandemig erbyn hynny.